Emma Raducanu yn creu hanes yn rownd derfynol Pencampwriaeth Tenis Agored yr UDA
10/09/2021
Mae Emma Raducanu drwodd i rownd derfynol Pencampwriaeth Tenis Agored yr UDA ar ôl iddi guro Maria Sakkari o Wlad Groeg.
Raducanu, sy’n 18 oed, yw’r fenyw Brydeinig gyntaf i gyrraedd rownd derfynol pencampwriaeth grand slam ers 44 o flynyddoedd.
Hi hefyd yw’r cystadleuydd rhagbrofol cyntaf i gyrraedd rownd derfynol o’i fath, a’r ieuengaf ers i Maria Sharaprova ennill yn Wimbeldon yn 17 oed yn 2004.
Mewn rhediad delfrydol, fe wnaeth Raducanu sicrhau buddugoliaeth gyda 6-1 6-4, gan ddweud ar ddiwedd y gêm ei bod hi “methu coelio’r peth”.
Fe fydd hi'n herio Leylah Fernandez, 17 oed o Ganada, yn y rownd derfynol.
Darllenwch y stori yn llawn yma.