Dod o hyd i gorff yn Lloegr wedi i ddyn fynd i’r dŵr ger Castell y Fflint

Castell y Fflint

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth wedi i gorff dyn y maen nhw’n credu aeth i’r dŵr ger Castell y Fflint gael ei ddarganfod ar lannau Cilgwri yn Lloegr.

Cafodd Heddlu Glannau Mersi wybod gan y Gwasanaeth Ambiwlans am 15.50 ddydd Mercher 16 Medi fod dyn wedi cael ei ganfod yn y môr yn Kirby, Glannau Mersi.

Mae’n debyg ei fod wedi mynd i’r dŵr yn ardal Castell y Fflint nos Lun, 14 Medi.

Mae’r Ditectif Brif Arolygydd Richard Griffith yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi ei weld i gysylltu.

Dywedodd: “Rydym yn gwybod o’n hymholiadau teledu cylch cyfyng fod sawl person yn cerdded, yn beicio ac yn gyrru yn ardal Castell y Fflint ar y pryd.

“Rwy’n arbennig o awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y dyn rhwng 18:00 a 21:30 ar ddydd Llun, 14 Medi.

“Dyn Asiaidd oedd o, a gafodd ei ddisgrifio fel rhywun tua 5 troedfedd 10 modfedd o daldra.

“Roedd yn gwisgo crys chwys du, jîns glas wedi’u rhwygo ac esgidiau ymarfer corff du. Mae’n bosib hefyd fod ganddo fag â strap ar draws ei gorff.

“Rydw i hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw luniau, fideos neu ffilm o gamera cerbyd o ardal y castell rhwng yr amseroedd hyn i gysylltu â ni. 

“Gallai eich gwybodaeth neu’ch lluniau fod yn hollbwysig i helpu ein hymchwiliad.

“Mae fy meddyliau’n parhau i fod gyda theulu’r dyn ar yr adeg anodd yma.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.