Cyngor Conwy yn gwrthwynebu cynllun i letya ceiswyr lloches yn Llandudno

Llun: Expedia
Llandudno

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dweud nad yw’n cefnogi cynnig gan y Swyddfa Gartref i letya ceiswyr lloches mewn eiddo yn Llandudno.

Mae’r Swyddfa Gartref yn bwriadu lletya 12 o geiswyr lloches mewn dau eiddo tebyg i dai amlfeddiannaeth (HMO) yn y dref, yn ôl dealltwriaeth y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol (LDRS)

Cadarnhaodd y cyngor ei fod wedi cael ei ymgynghori gan y Swyddfa Gartref ynglŷn â’r cynnig yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Mae cynghorwyr yn dweud eu bod wedi cael gwybod am y cynlluniau, ond nad ydynt yn cael siarad am y mater oherwydd natur sensitif y cynigion.

Dywedodd y cyngor mai ei rôl yw asesu pa mor addas yw’r llety arfaethedig a rhoi cyngor yn seiliedig ar dystiolaeth am amgylchiadau lleol, yr effaith ar y gymuned, a lles trigolion presennol a cheiswyr lloches.

Mae’r asesiad wedi’i gynnal mewn ymgynghoriad â phartneriaid a chynrychiolwyr etholedig perthnasol er mwyn helpu’r Swyddfa Gartref i wneud penderfyniad.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy: “Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth i bobl sy’n chwilio am loches sydd wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi oherwydd gwrthdaro, erledigaeth, trais neu argyfyngau dyngarol.

“Y Swyddfa Gartref sy’n gyfrifol am ddarparu llety i geiswyr lloches. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae’r Swyddfa Gartref wedi ymgynghori â’r Cyngor ynglŷn â chynnig i letya ceiswyr lloches yn ardal Llandudno.

Ychwanegodd: “Ar sail yr asesiad hwn, mae’r Cyngor wedi dweud wrth y Swyddfa Gartref nad yw’n cefnogi’r cynnig hwn.

“Ni all y Cyngor wneud sylw ar na datgelu manylion llety sydd wedi’i sicrhau gan y Swyddfa Gartref.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: “Rydym yn gweithio i letya ceiswyr lloches yn deg ledled y wlad a byddwn yn cau pob gwesty sy’n cael ei ddefnyddio i letya ceiswyr lloches erbyn diwedd y Senedd hon – proses sydd eisoes wedi helpu i arbed £1 biliwn i drethdalwyr ers yr etholiad cyffredinol.”

Ychwanegodd: “Yn lle hynny, rydym yn symud ceiswyr lloches i lety amgen er mwyn lleihau’r effaith ar gymunedau lleol.

“Fel rhan o’r gwaith hwn, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol a heddluoedd er mwyn lleihau’r effaith ar yr ardaloedd cyfagos.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.