Cwricwlwm newydd wedi tanseilio’r ffocws ar lythrennedd a rhifedd, medd cyn-weinidog addysg Cymru

Leighton Andrews

Mae un o gyn-weinidogion addysg Cymru wedi dweud bod y cwricwlwm newydd wedi tanseilio’r ffocws ar lythrennedd a rhifedd.

Roedd Leighton Andrews, a oedd yn weinidog addysg yn Llywodraeth Lafur Cymru rhwng 2009 a 2013, yn trafod safonau ysgolion Cymru a chanlyniadau PISA.

Fe wnaeth canlyniadau disgyblion 15 oed Cymru yn y profion rhyngwladol eleni syrthio ymhellach y tu ôl i weddill y Deyrnas Unedig.

Mae’r profion yn cael eu gweld fel llinyn mesur pwysig o berfformiad systemau addysg.

Dywedodd Leighton Andrews ei fod wedi bod â “phryderon” am y cwricwlwm newydd ers degawd.

Mae'r cwricwlwm newydd a gyflwynwyd y llynedd yn rhoi mwy o ryddid i ysgolion ddylunio eu cwricwlwm eu hunain o fewn fframwaith cenedlaethol, gyda'r gallu i addasu’r hyn maen nhw’n ei addysgu i weddu i’w cymuned leol.

“Yn anffodus, ar y cyfan, rwy’n credu bod y Cwricwlwm newydd wedi tynnu sylw oddi ar yr agenda safonau ac wedi tanseilio’r ffocws ar lythrennedd a rhifedd,” meddai Leighton Andrews.

“Roedd adroddiadau Estyn o’r naill flwyddyn i’r llall yn nodi hynny.

“Mae hefyd wedi creu fframwaith mwy llac sy’n gorfod dibynnu’n ormodol ar ddisgresiwn athrawon.

“Fel roeddwn i’n ei ofni, cafodd y ffocws ar safonau ei golli.”

Roedd hefyd yn croesawu cynllun gweinidog addysg newydd Plaid Cymru, Anna Brychan, i roi mwy o bwyslais ar lythrennedd a rhifedd.

“Mae gweinidog addysg newydd Cymru, Anna Brychan, yn dweud yn gwbl gywir nad oes ffocws cyson wedi bod ar lythrennedd a rhifedd dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai.

“Mae ei Chynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol newydd yn rhoi llythrennedd a rhifedd yn ôl wrth wraidd y cwricwlwm.

“Mae hefyd yn rhoi mwy o bwyslais ar ffoneg synthetig systematig (SSP), gyda’r disgwyliad y ‘dylai pob ysgol ddefnyddio SSP fel rhan o’i dull gweithredu’.

“Rwy’n croesawu hyn yn fawr iawn. Rwy’n gobeithio mai dyma ddechrau consensws trawsbleidiol sy’n golygu y bydd llythrennedd a rhifedd yn ganolog am y tymor hir, nid am un tymor Senedd yn unig.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.