Undebau ffermio'n beirniadu penderfyniad BBC Cymru i ddod â'r Bwletin Amaeth i ben
Mae undebau amaeth wedi beirniadu penderfyniad BBC Cymru i ddod â'r Bwletin Amaeth i ben, gan ddisgrifio’r newid fel “cam yn y cyfeiriad anghywir”.
Cyhoeddodd y BBC ddydd Iau y bydd y bwletin amaethyddol yn dod i ben fel rhan o gyfres o fesurau i dorri costau yn y gorfforaeth.
Mae’r newidiadau hefyd yn cynnwys dod â Dros Ginio ac Ar y Marc ar BBC Radio Cymru i ben.
Roedd y Bwletin Amaeth yn cael ei ddarlledu yn ystod Rhaglen John Hardy yn y boreau yn ystod yr wythnos, ac roedd hefyd ar gael fel podlediad.
Roedd y bwletin yn cynnwys newyddion am bolisi amaethyddol, prisiau'r farchnad a digwyddiadau yn y calendr ffermio.
Cynhyrchiad gan y cwmni Telesgop oedd y bwletin.
O dan y cynlluniau newydd, bydd rhaglen frecwast newydd yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Cymru 2 ar y cyd, wrth i Raglen John Hardy ddod i ben.
Dywedodd y BBC y bydd newyddion gwledig ac amaethyddol yn cael ei adlewyrchu yn ei brif gynnwys newyddion yn y dyfodol.
'Annerbyniol'
Mae NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru wedi mynegi siom ynglŷn â’r penderfyniad.
Dywedodd Dafydd Jarrett o NFU Cymru: "Siom o’r mwyaf i NFU Cymru ydi deall hyn. Mae yn hollol annerbyniol i’n haelodau ledled Cymru.
"Mae yn gam yn y cyfeiriad anghywir, yn gnoc galed o dan y belt gan y gorfforaeth ar amser dyngedfennol yn y diwydiant lle mae gwybodaeth cyfredol annibynol ac amserol mor bwysig i’r sectorau amaeth i gyd.
"Cofiwch fod 23000 o mwy o rheini sydd yn y diwydiant Amaeth yng Nghymru yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a mwy yn deall yr iaith ac yn wrandawyr cyson, gan cynnwys pobol dros y dŵr. Mae hynny yn 43% o’r gweithlu amaethyddol yma yng Nghymru."
Fe gwestiynodd Mr Jarrett y penderfyniad i gael gwared ar y Bwletin Amaeth pan fod rhaglen Saesneg tebyg ar BBC Radio 4, Farming Today, yn parhau.
"Be ydi y gwahananiaeth yma yng Nghymru fach?" meddai.
"Dadl wan iawn ydi dweud y bydd newyddion amaeth yn y bwletin cyffredinol. Mae hyn yn digwydd yn barod ac mae unrhyw gynwys amaethyddol yn mynd i fod yn chwit chwat ac yn hollol ddibynol ar benderfyniad golygydd y rhaglen."
Ychwanegodd: "Mae hysbyseb y BBC yn dweud ‘rydym yma i chi’. Yn amlwg nid ydi y gymuned amaethyddol, asgwrn cefn gwlad, yn bwysig i chi o gwbl, gyda y penderfynniad unbeniaethol heb ymgynghoriad, yma.
"Rhaid i’r pennaethiad ei wyrdroi ar frys.
"Ydi gofyn am wyth munud o raglen benodol amaeth broffesiynol boblogaidd pum niwrnod yr wythnos, yn afresymol?
"Nac ydi wrth gwrs."
'Siom'
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Amaethwyr Cymru: "Mae cyfraniad BBC Radio Cymru at fywyd cefn gwlad a'r diwydiant amaeth yn eithriadol werthfawr ac mae rhaglen fel y Bwletin Amaeth yn gyfrwng pwysig ar gyfer rhannu'r datblygiadau diweddaraf yn y sector a thrafod y materion sydd o bwys i'n aelodau.
"Mae'n siom felly i'r Undeb fod y rhaglen hon yn dod i ben, ond edrychwn ymlaen at barhau i gyfrannu a chynrychioli ein aelodau a'r diwydiant ar raglenni cyffredinol BBC Radio Cymru yn y dyfodol."
Dywedodd Prif Weithredwr mudiad Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru, Mared Rand Jones: "Mae’n drist iawn clywed am y newidiadau hyn.
"Mae Bwletin Amaeth wedi rhoi sylw gwerthfawr i waith a llais CFFI Cymru dros y blynyddoedd, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y cydweithio hapus a’r gefnogaeth," meddai.
"Rydyn ni’n gobeithio y bydd newyddion a materion sy’n bwysig i bobl ifanc mewn amaethyddiaeth yn parhau i gael y sylw haeddiannol ar Radio Cymru."
Ymateb y BBC
Dywedodd BBC Cymru eu bod yn deall fod y newyddion hyn yn "siomedig i wrandawyr, staff a’r Undebau."
Ychwanegodd llefarydd na fyddai’n gwneud sylw pellach.