Rhaglen Ar y Marc yn rhan o doriadau diweddaraf BBC Cymru

24/09/2026

Rhaglen Ar y Marc yn rhan o doriadau diweddaraf BBC Cymru

Mae BBC Cymru yn dweud y bydd yn rhaid torri tua 45 o swyddi cyfwerth ag amser llawn a dod â sawl rhaglen i ben wrth geisio gwneud arbedion. 

Mae Newyddion S4C yn deall bod nifer o gyfarfodydd wedi eu cynnal mewn gwahanol adrannau o BBC Cymru ddydd Iau i drafod y toriadau ariannol.

Mae hyn yn rhan o ymdrech y gorfforaeth i wneud arbedion o £500 miliwn.

Yn ystod prynhawn dydd Iau, fe wnaeth BBC Cymru amlinellu’r newidiadau i wasanaethau teledu, radio, newyddion, chwaraeon, cerddoriaeth a theithiau cyhoeddus.

Radio Cymru

Mae cadarnhad wedi dod bod rhaglenni Dros Ginio ac Ar y Marc yn dod i ben, ar ôl adroddiadau Newyddion S4C yn gynharach yr wythnos hon.

Mae Newyddion S4C hefyd yn deall y bydd ailddarllediadau o raglenni Dei Tomos, Beti a'i Phobl a’r rhaglen gelfyddydol Llwyfan yn cymryd lle Dros Ginio yn ystod yr wythnos.

Mae BBC Cymru yn dweud y bydd rhaglen newydd awr o hyd o’r enw Yr Wythnos yn cael ei lansio amser cinio dydd Gwener. Bydd yn crynhoi’r newyddion a’r datblygiadau yn y byd gwleidyddol.

Bydd darllediad o bodlediad Y Coridor Ansicrwydd yn cymryd lle Ar y Marc ar yr amserlen.

Mae cadarnhad hefyd wedi dod y bydd Radio Cymru 2 yn llenwi bwlch y bore tan i Dros Frecwast ddechrau am 07:00. Daw hyn wrth i raglen John Hardy ddod i ben.

Fel rhan o’r newid, bydd Bwletin Amaeth yn dod i ben, yn ôl BBC Cymru.

Teledu a Radio Wales

Bydd amserlen gorsaf Radio Wales yn cael ei symleiddio ar ddydd Sul wrth i gyllidebau’r orsaf “leihau ar gyfran debyg i rai Radio Cymru”.

Yn ôl BBC Cymru, bydd hyn yn arwain at “arlwy newydd ar gyfer y gwanwyn pan fydd Roy Noble yn ein gadael ni, a bydd rhaglen Lynn Bowles yn dod i ben. Bydd nifer y rhaglenni sy’n cael eu comisiynu hefyd yn lleihau”.

O ran teledu Saesneg, mae cadarnhad wedi dod y bydd BBC Cymru yn comisiynu tua 20 awr yn llai o raglenni teledu bob blwyddyn.

“Bydd y buddsoddiad yn canolbwyntio’n fwyfwy ar gynnwys sy’n cael yr effaith gryfaf ar gynulleidfaoedd ar draws BBC iPlayer a phlatfformau digidol, ochr yn ochr ag ymrwymiad cynyddol i greu cynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd iau,” meddai llefarydd.

Newyddion

Yn yr adran newyddion, mae disgwyl i ddwy swydd gohebydd arbennig gael eu colli.

Fe wnaeth newyddiadurwyr glywed mewn cyfarfod fore dydd Iau mai'r bwriad oedd ail-lunio amserlenni’r rhaglenni. Doedd dim manylion pellach am y newidiadau hyn.

Bydd mwy o fuddsoddiad yn cael ei wneud ar blatfform YouTube hefyd, mae'n debyg.

Yn ôl un aelod o staff, roedd y "mood yn flin iawn" ymysg y staff oedd yn y cyfarfod.

Fe wnaeth y BBC gyhoeddi ym mis Mehefin y camau cyntaf yn ei gynlluniau i sicrhau arbedion o £500 miliwn erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2027/28.

Mewn datganiad i’r sector cynhyrchu ar y pryd, dywedodd BBC Cymru y byddai’r toriadau’n effeithio ar bob rhan o’i bortffolio fideo a sain.

Roedd hynny’n cynnwys rhaglenni teledu wedi’u sgriptio a heb eu sgriptio, BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a BBC Sounds.

Cerddoriaeth

Dywedodd y gorfforaeth ddydd Iau y bydd dyfodol y fenter gerddoriaeth gyfoes, Gorwelion/Horizons, yn cael ei adolygu.

Bydd newidiadau hefyd i raglen flynyddol Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Fel rhan o’r cynlluniau, bydd teithiau cyhoeddus o amgylch pencadlys y BBC yn y Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd yn dod i ben, yn unol â threfniadau canolfannau eraill y BBC.

'Adlewyrchu arferion newidiol cynulleidfaoedd'

Dywedodd BBC Cymru y byddai swyddi rheoli ymhlith y swyddi sy’n cael eu torri.

“Bydd y cynlluniau heddiw yn arwain at newidiadau ar draws nifer o wasanaethau a gweithgareddau a disgwylir i’r cynlluniau leihau lefelau staffio tua 45 o swyddi sy’n gyfwerth ag amser llawn,” meddai llefarydd.

“Er bod y BBC yn blaenoriaethu i ddiogelu cynnwys o fewn y cynlluniau arbedion hynny, mae BBC Cymru, fel pob rhan arall o’r sefydliad, yn gorfod cyfrannu tra’n ceisio diogelu ansawdd, perthnasedd ac effaith ei hallbwn ar draws gwasanaethau teledu, radio ac ar-lein."

Ychwanegodd y llefarydd: “Mae’r cynlluniau hefyd yn adlewyrchu arferion newidiol cynulleidfaoedd, gyda mwy o bobl yn dewis troi at gynnwys ar blatfformau digidol, ochr yn ochr â'r angen i sicrhau bod BBC Cymru yn parhau’n gynaliadwy ac yn gallu gwasanaethu cynulleidfaoedd ledled Cymru yn y dyfodol.

“Mae’r newidiadau hyn yn gam pwysig tuag at fodloni targed arbedion BBC Cymru, tra'n sicrhau ei hymrwymiad i newyddiaduraeth y gellir ymddiried ynddi, cynnwys Cymreig nodedig a gwasanaethau digidol.”

'Cylch dinistriol'

Yn dilyn y cyhoeddiad am nifer o doriadau yr wythnos hon, gan gynnwys 41 o swyddi yn adran chwaraeon y BBC yn genedlaethol, mae undeb y newyddiadurwyr, yr NUJ, wedi rhybuddio fod perygl y gallai'r gorfforaeth gael ei dal mewn "cylch dinistriol" y mae modd ei osgoi.

Byddai hynny'n "niweidio gweithwyr a chynulleidfaoedd y DU fel ei gilydd os bydd darlledwr y genedl yn parhau â'i drefn o doriadau llym."

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr NUJ, Laura Davison: "Mae ymgyrch barhaus y BBC i dorri cyllidebau yn ddinistriol ac yn chwalu morâl ein haelodau, ac mae'n tanseilio'n ddifrifol allu'r darlledwr i wasanaethu cynulleidfaoedd ledled y DU. 

"Mae'r don ddiweddaraf o doriadau yn ychwanegu at y drallod sy'n cael ei deimlo eisoes.

"Mae Radio Lleol y BBC yn denu miliynau o wrandawyr ledled y wlad bob wythnos. Mae'r BBC hefyd yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn darparu 'gwasanaeth chwaraeon mwyaf poblogaidd y DU'. 

"Gweithlu ymroddedig y BBC sydd wedi sicrhau ei lwyddiant, ac ni fydd y darlledwr yn gallu parhau i ddarparu newyddiaduraeth o safon a rhaglenni gwreiddiol hebddynt."

Ychwanegodd: "Po fwyaf o doriadau y mae'r BBC yn eu gwneud, mwyaf oll y mae ei wasanaethau'n dioddef. Mae hyn yn ei gwneud yn anoddach i'r darlledwr gyfiawnhau gwariant cyhoeddus, sydd yn ei dro yn arwain at ragor o doriadau. 

"Mae'r BBC mewn perygl o lithro i gylch anochel o ddirywiad os bydd yn parhau i symud i'r cyfeiriad hwn."

Mae Newyddion S4C wedi gofyn am ymateb gan y BBC i sylwadau'r NUJ.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.