Newyddion S4C

Cyfyngu ar ymweliadau i ysbytai ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

10/09/2021
Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Mae bwrdd iechyd yn y de wedi cyhoeddi y bydd cyfyngiadau pellach ar ymweliadau i ysbytai yn sgil "nifer cynyddol" o gleifion sydd wedi cael canlyniad positif am Covid-19.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, roedd gwneud y penderfyniad yn "anodd", ond wedi cael ei wneud "er lles a diogelwch" y cleifion a'r staff.

Mae'r newidiadau wedi dod i rym ers dydd Gwener, gyda'r bwrdd iechyd yn gofyn i aelodau o'r cyhoedd i beidio ymweld ag unrhyw un o'u hysbytai, oni bai o dan rhai amgylchiadau.

Fe fydd ymweliadau yn cael eu caniatáu os bydd claf yn derbyn gofal diwedd oes.

Bydd hefyd un partner neu berson cefnogol sy'n cefnogi menyw unwaith ei bod wedi dechrau rhoi genedigaeth yn cael ymweld, ac yn cael aros yn y cyfnod yn syth ar ôl rhoi genedigaeth cyn i’r fam fynd adref neu cyn iddi gael ei symud i’r ardal ôl-enedigol, yn ôl y bwrdd.

Serch hynny, ni fydd modd ymweld â’r wardiau cyn-geni na’r wardiau ôl-enedigol.

Fe fydd un partner yn cael ymweld ar gyfer sganiau uwchsain apwyntiad 12 wythnos a'r apwyntiad 20 wythnos, ac i rai sganiau sydd wedi eu trefnu trwy Wasanaeth Beichiogrwydd Cynnar y bwrdd.

Budd un person yn unig hefyd yn cael ymweld â chlaf mewn mannau paediatreg a newyddenedigol.

Iechyd yn 'flaenoriaeth'

Mewn datganiad, dywedodd y bwrdd iechyd: "Rydyn ni’n deall pa mor anodd y bydd ein cyfyngiadau ar ymweld i deuluoedd, ond cefnogwch ni i leddfu ar effaith y feirws hwn gymaint â phosib ac i gadw pawb yn ddiogel. Byddwn yn rhannu diweddariadau rheolaidd wrth i’r sefyllfa newid.

"Ein blaenoriaeth ni bob amser yw iechyd a diogelwch cleifion, ymwelwyr, y rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau a'n staff yn ystod yr adeg heriol hon."

Dywedodd Greg Dix, Cyfarwyddwr Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg: “Rydyn ni wedi cymryd y cam hwn i gyflwyno cyfyngiadau llymach ar ymweliadau yn ein hysbytai oherwydd y cynnydd real iawn rydyn ni'n ei weld yn y nifer o gleifion yn ein hysbytai sydd gyda COVID-19.

“Er gwaethaf lleddfu ar rai cyfyngiadau yn y gymdeithas, rydyn ni’n dal i fyw mewn pandemig, ac mae’r nifer o gleifion sy'n dost gyda Covid-19 ac sydd angen gofal ysbyty yn cynyddu bob dydd.

“Mae gwneud y penderfyniad anodd hwn i gyfyngu ar ymweliadau yn ei gwneud yn bosibl i ni reoli’r lefelau o Covid-19 yn ein hysbytai, gan gadw ein cleifion a'n staff mor ddiogel â phosibl.

“Cymeraf y cyfle hwn i atgoffa pawb o bwysigrwydd cael y brechiad rhag Covid-19 os ydyn ni’n mynd i lwyddo i arafu lledaeniad y feirws wrth i fisoedd y gaeaf nesáu.

“Os ydych chi'n teimlo'n dost, hyd yn oed os ydych chi wedi derbyn y brechlyn, mae'n bwysig eich bod yn cael prawf Covid-19 cyn gynted â phosib a’ch bod yn hunan-ynysu hyd nes i chi gael eich canlyniad.”

Llun: Jaggery

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.