Newyddion S4C

Trydydd brechlyn Covid-19 yn ‘ddiangen’ i’r mwyafrif, medd arbenigwr

The Independent 10/09/2021
Brechlyn Rhydychen/AstraZeneca.  Llun: Prifysgol Rhydychen, John Cairns.

Mae un o wyddonwyr blaenllaw fu’n gweithio ar greu’r brechlyn Oxford/AstraZeneca wedi dweud fod rhoi trydydd brechlyn coronafeirws yn “ddiangen i’r mwyafrif”.

Dywedodd y Fonesig Sarah Gilbert fod dau ddos o’r brechlyn â’r gallu i “bara yn dda”, a bod lefelau brechu ym Mhrydain yn ddigon i frwydro yn erbyn yr amrywiolion, megis Delta.

Ychwanegodd mi fydden nhw’n edrych ar sefyllfaoedd unigol, gan gadarnhau y bydd y rhai lle mae eu himiwnedd wedi’u heffeithio, yn ogystal â’r henoed, yn derbyn brechlyn atgyfnerthu.

Mae disgwyl i’r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) gymeradwyo rhoi brechlyn atgyfnerthu o Pfizer unrhyw ddydd.

Mae Sajid Javid, Gweinidog Iechyd llywodraeth San Steffan, eisoes wedi dweud ei fod yn “hyderus” y bydd pobl yn derbyn trydydd dos erbyn mis Hydref.

Darllenwch y stori’n llawn ar wefan The Independent yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.