Newyddion S4C

Cwblhau her redeg er cof am chwaraewr rygbi

Newyddion S4C 10/09/2021

Cwblhau her redeg er cof am chwaraewr rygbi

Mae grŵp o aelodau o Glwb Rygbi Gwmllynfell wedi cwblhau her redeg er mwyn codi ymwybyddiaeth am yr angen i gael diffibriliwr ymhob clwb chwaraeon yng Nghymru.

Fe gollodd y clwb yng Nghastell-nedd Port Talbot un o’i chwaraewyr, Alex Evans, ar ôl iddo gael trawiad ar y galon yn ystod gêm rygbi ym mis Awst.

Yn dilyn hyn, fe benderfynodd Dominic Austin, Gareth Harries a Kieran Bennett o’r clwb redeg 48 milltir dros un penwythnos.

Image
Newyddion S4C

Nod yr her oedd i gasglu arian ar gyfer teulu Alex Evans, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth am yr angen i gael diffibriliwr mewn clybiau chwaraeon.

‘Beth yw £1,500 ar fywyd?’

Dywedodd Dominic Austin ei fod yn gobeithio y byddai’r arian yn gwneud gwahaniaeth.  

O'n i'n cweit shocked i glywed bod dim defibrillator mewn pob clwb rygbi yng Nghymru,” dywedodd wrth raglen Newyddion S4C.

Image
Newyddion S4C

‘‘Ni’n gobeithio neith hyn godi ymwybyddiaeth i gael defibrillators mewn pob clwb achos ti’mod, beth yw £1,500 ar fywyd yfe?”

“Mae cael talu £1500 ar defib mewn clwb could be the difference between life and death.”

‘Ddim yn rhywbeth rhwydd i neud’

Er mwyn nodi diwedd y daith, fe wnaeth sawl aelod o’r gymuned ymuno â’r bechgyn i gyrraedd copa Pen y Fan, gan gynnwys rhai o deulu Alex Evans.

Yn ôl Angharad Thomas sydd yn aelod o’r teulu, mae’r rheswm tu ôl i sialens y cyfeillion yn golygu llawer iddyn nhw.

“I ni fel teulu, jyst beth ma' Dom, Gareth a Kieran wedi bod yn neud mae jyst yn dangos faint o aelod o'r tîm o’dd Alex,” eglurodd.

“A phopeth ma' nhw'n neud, ma' fe ddim yn rhywbeth rhwydd i neud.

“Chi'mod ma' fe'n 40 awr a continuously am 40 awr, mae fe'n jyst 'amazing'.

“Fi'n credu taw un o'r pethe dyle bob cymuned neu bob cae rygbi lleol cael yw defibrillator ar y site, dim jyst yn y gymuned.

“Mae ishe un ar y site fel bod e'n agos iawn os mae digwyddiad yn digwydd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.