Newyddion S4C

Diwrnod Atal Hunanladdiad: Tuedd i ‘osgoi’r anodd’ a’i ‘sgubo o’r neilltu’

10/09/2021

Diwrnod Atal Hunanladdiad: Tuedd i ‘osgoi’r anodd’ a’i ‘sgubo o’r neilltu’

A hithau’n Ddiwrnod Atal Hunanladdiad ddydd Gwener, mae’r cyflwynydd teledu a’r ffermwr Alun Elidyr wedi dweud wrth Newyddion S4C fod nodi dydd o’r fath yn bwysig i godi ymwybyddiaeth pobl am broblemau iechyd meddwl.

Wedi iddo ddarganfod ei fam yn farw bron i saith mlynedd yn ôl, fe ddechreuodd Mr Elidyr dioddef o iselder difrifol, gan gynnwys meddwl am hunanladdiad.

Yn sgil y cyfnod clo, bu’r cyflwynydd ynghyd ag elusennau iechyd meddwl ledled Cymru yn galw am drafodaeth agored am iechyd meddwl a hunanladdiad.

Dywedodd Mr Elidyr: “Lle mae’r drafodaeth i ddechrau cychwyn? Hynny yw, dyna’n sylfaenol pam bod y diwrnod yma mor bwysig achos dyn ni’n dweud ma’ hwn yn broblem a dyn’ ni’n wynebu’r broblem, dyn’ ni ddim yn sgubo fo i’r neilltu. 

“Y tuedd mewn cymdeithas ydy sgubo pethau o’r neilltu – osgoi'r cymhleth, osgoi'r anodd i wynebu yn enwedig pan dyn’ ni ddim yn gwybod digon amdano fo.”

‘Aelodau gwerthfawr o’n cymunedau’

Yn wyneb cyfarwydd ag aelod blaenllaw o’r gymuned amaethyddol yng Nghymru Cymru, disgrifiodd Mr Elidyr yr effaith mae anawsterau iechyd meddwl yn ei gael ar nifer o fewn y diwydiant.

“Mae gynnon ni'r ddelwedd ma’, fel ffermwyr, ohonom ni fel pobl eitha’ cadarn, bwrw 'mlaen, yn gry’ yn gorfforol ac mae torri’r ddelwedd yna yn her ofnadwy ac yn dangos cydnabod bod chi’n wan, bod gyda chi wendid yn siarad amdano fo.

“Mae 'na swmp helaeth o lefydd i droi am gyngor a chymorth felly peidiwch â phryderu am hwnna o gwbl,” ychwanegodd. 

Dim lle i fod yn ‘hunanfodlon’

Yn ôl elusen Samariaid Cymru, mae rhwng 300 a 350 o farwolaethau sy’n gysylltiedig â hunanladdiad yng Nghymru pob blwyddyn.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf bu farw 285 o bobl o achos hunanladd, gyda hyn yn 10.3 o farwolaethau ymhob 100,000 o'r boblogaeth.

Er bu gostyngiad yn nifer y marwolaethau yn sgil hunanladdiad yng Nghymru a Lloegr yn 2020 o'i gymharu â 2019, mae Samariaid wedi rhybuddio nad oes lle i fod yn "hunanfodlon". 

"Erbyn hyn mae’r data yma dros flwydd oed a gwyddom y bydd y pandemig wedi cael effaith hir ar iechyd meddwl a llesiant pobl, felly nid oes lle i fod yn hunanfodlon.

“Rhaid i’r llywodraeth wneud atal hunanladdiad yn ganolog i gynllunio adfer ar ôl y pandemig ac, er mwyn i’r gostyngiad hwn fod yn fwy parhaol, a chyflwyno system genedlaethol o adrodd am hunanladdiadau mewn amser real sy’n golygu y gallwn ddibynnu ar wybodaeth gywir a chyfredol wrth fynd i’r afael â hunanladdiad a mesur cynnydd.”

Amseroedd aros gwasanaethau iechyd meddwl

Mae sgil effeithiau’r pandemig hefyd wedi golygu cynnydd yn yr amseroedd aros am nifer o wasanaethau iechyd meddwl, medd elusen arall.

Yn ôl Mind Cymru, mae’r nifer o bobl sydd yn aros dros 26 wythnos am gymorth iechyd meddwl wedi cynyddu 4% o 2,146 i 2,228, tra oedd cynnydd o 17% yn y nifer o bobl oedd yn aros dros flwyddyn am gymorth yng Nghymru.

Dywedodd Simon Jones, Pennaeth Polisi Mind Cymru: “Mae sicrhau bod digon o wasanaethau iechyd meddwl ar gael i ddarparu cymorth i bobl pan maen nhw eu hangen yn elfen hanfodol o atal hunanladdiad.

“Rhaid cael gwasanaethau gofal argyfwng sy’n gallu ymateb ar frys ynghyd â gwasanaethau iechyd meddwl all weithredu’n gynnar er mwyn atal hunanladdiad, gan gynorthwyo pobl i wella a'u hatal rhag cyrraedd pwynt argyfwng.”

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae atal achosion o hunanladdiad yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ond mae’r ffactorau risg ar gyfer hunanladdiad yn gymhleth.

“Mae gofyn gweithredu ar draws sawl maes a chydweithio rhwng asiantaethau. 

“Rydym wedi buddsoddi £42 miliwn ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd meddwl a fydd yn cynnwys ehangu gwasanaethau argyfwng a chymorth ar gyfer plant a phobl ifanc.”

Am gymorth iechyd meddwl cysylltwch â Samariaid Cymru ar 116 123 neu am eu llinell gymorth Cymraeg cysylltwch ar 0808 164 0123 rhwng 19:00 a 23:00, pob dydd. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.