Arestio dau wedi i dlysau ‘amhrisiadwy’ gael eu dwyn o'r Louvre
Mae dau berson wedi cael eu harestio wedi i dlysau ‘amhrisiadwy’ gael eu dwyn o amgueddfa y Louvre ym Mharis yn ôl adroddiadau yn Ffrainc.
Roedd yr amgueddfa ym Mharis ar gau ddydd Sul diwethaf yn dilyn y lladrad a ddigwyddodd tua 09:30 y bore (08:30 GMT).
Mae papur newydd Le Parisien yn adrodd fod y dynion yn wreiddiol o ardal Seine-Saint-Denis sydd ychydig y tu allan i'r brifddinas.
Roedd un ohonyn nhw yn ôl adroddiadau ar fin dal awyren i Algeria nos Sadwrn cyn cael ei arestio.
Roedden nhw wedi cael mynediad o du allan yr adeilad i Oriel Apollo, ar ochr yr amgueddfa sy’n wynebu'r Afon Seine.
Dyma’r ystafell lle mae tlysau brenhinol Ffrainc wedi eu cadw.
Fe wnaethon nhw ddianc â naw darn o emwaith.
Mae coron ddiemwnt ac emrallt a oedd yn eiddo i wraig Napoleon III ac a oedd yn cynnwys dros fil o gerrig gwerthfawr wedi ei darganfod wedi'i thorri gerllaw.