Anna Morris yn ennill pencampwriaeth y byd unwaith eto

Anna Morris

Mae’r seiclwraig Anna Morris o Gaerdydd wedi ennill medal aur ym Mhencampwriaethau Seiclo Trac y Byd yn Santiago yn Chile.

Fe wnaeth Morris, sy’n 30 oed, amddiffyn ei theitl yn y ras cwrs unigol dros 4km gan guro Josie Knight, hefyd o Brydain o 2.317 eiliad.

Fe ddechreuodd Morris y ras yn gadarn ac roedd hi 1.7 eiliad ar y blaen ar hanner ffordd.

Roedd pŵer a chysondeb Morris yn drech na’i gwrthwynebydd gyda Morris yn ymestyn ei blaenoriaeth tan ddiwedd y ras.

Daw buddugoliaeth Morris ddiwrnod ar ôl i Josh Tarling o Aberaeron yng Ngheredigion ennill medal aur yn ras bwyntiau’r dynion.

Llun: Instagram/British Cycling

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.