'Wastad wedi gwybod': Tad o Gaerdydd wedi gwireddu breuddwyd drwy fabwysiadu â'i ŵr
Mae tad o Gaerdydd yn dweud ei fod “wastad wedi gwybod” y bydd yn rhiant er iddo gofio’r adeg pan oedd hi’n anghyfreithlon i gyplau un rhyw fabwysiadu plant.
Wrth i Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu ddirwyn i ben, mae’n dweud ei fod yn gyfnod “amserol iawn” i’w deulu hel atgofion am y blynyddoedd diwethaf.
Bron i 20 mlynedd ers i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ddod i rym diwedd 2005, mae Guto yn dweud iddo gofio teimlo’n benderfynol o fod yn “dad da” er gwaethaf ei ddiffyg hawliau ar y pryd.
Bellach mae ef a’i ŵr, Rhys, sydd wedi mabwysiadu eu plentyn ers pedair blynedd – ac mae’n “bron yr union ddiwrnod” ers i’w mab dychwelyd adref gyda’i rieni.
“O’n i wastad yn gwybod bo’ fi am fod yn dad, ‘odd e wastad ‘on the cards’ fel petai,” meddai Guto wrth siarad â Newyddion S4C.
“Fel rhywun hoyw, o’n i’n dod i delerau gyda hynny o gwmpas yr adeg, neu ddim yn bell ar ôl yr adeg ‘nath cyplau hoyw cael mabwysiadu yn y lle cynta’ – fi’n cofio hynny dod i gyfraith.
“O gwybod bod ‘na gyfraith wedi gweud bod dim hawl, odd ‘na ryw streak ynddo fi oedd yn gweud, ‘Na, mae hawl ‘da fi a fyddwn i yn dad da.’"
Yr amser cywir
Mae Guto’n croesawu ffigyrau newydd yr wythnos hon sydd yn dangos bod cynnydd yn nifer y cyplau un rhyw sydd bellach yn mabwysiadu yng Nghymru.
Fe ddechreuodd ef a’i ŵr drafod mabwysiadu ar ddechrau’r pandemig yn 2020.
Ond penderfynon nhw mai “nid nawr oedd yr amser,” gan gytuno i ddisgwyl cyn bwrw ymlaen gyda’u cynlluniau.
Blwyddyn yn ddiweddarach fe aeth y cwpwl ar drip gwersylla gan sylweddoli eu bod yn bellach yn barod i fod yn rhieni.
“Yn gadael y trip yna o’n ni’n trafod: ‘O mae angen car mwy arna ni, car fwy ar gyfer cael y stwff campo i gyd i mewn, a ‘falle gyda’r car yma byddwn ni â phlentyn’.
“A sylweddoli bod y drafodaeth bellach ddim amdano cael car newydd ond bod ni’n ‘neud penderfyniad bod ni mynd i bwrw ‘mlaen gyda mabwysiadu.
“Y diwrnod nesa’ natho ni ffonio’r asiantaeth mabwysiadu a gweud bod ni’n barod i bwrw ymlaen a blwyddyn yn ddiweddarach 'dath mab ni adref ‘da ni.”
'Cymerwch y cam cyntaf'
Mae Guto yn annog unrhyw un sydd yn ystyried mynd trwy’r proses o fabwysiadu “i gymryd y cam cyntaf".
“Natho ni benderfynu cymryd blwyddyn allan o’r broses ac 'odd hwnna’n hollol iawn.
“Odd hwnna ddim yn gweithio yn ein herbyn ni o gwbl, felly wastad cymerwch y cam cynta’ ‘na.”
Ers i Wasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol gael ei sefydlu dros ddegawd yn ôl, mae mabwysiadu gan gyplau o'r un rhyw wedi cynyddu i 22% yng Nghymru.
Mae ‘na gynnydd wedi bod ymysg pobl sengl yn ogystal, i 10%, tra bod cyfran y mabwysiadwyr o gefndiroedd BAME neu ethnigrwydd cymysg wedi cynyddu i 17%.
Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru ei bod yn annog pobl sy’n ystyried mabwysiadu i gysylltu ag un o’u pum gwasanaeth mabwysiadu rhanbarthol neu’r Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol annibynnol ledled Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn “falch o weld amrywiaeth cynyddol” ymhlith pobl sy'n dangos diddordeb mewn mabwysiadu yng Nghymru.
"Rydyn ni’n parhau i weithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i gryfhau gwasanaethau mabwysiadu, gan sicrhau bod teuluoedd yn cael eu cefnogi'n dda a bod plant yn cael y cyfle gorau i ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn."