STAD: Ffarwelio gydag un Keith Gurkha, a chroesawu un newydd
Wrth i wylwyr selog y gyfres Stad, a chyn hynny, Tipyn o Stad ar S4C edrych ymlaen at groesawu cymeriadau selog 'Maes Menai' yn ôl i'r sgrin ddechrau Tachwedd, ni fydd un o actorion gwreiddiol y cyfresi yn dychwelyd ar gyfer y gyfres newydd.
Wedi dweud hynny, fe fydd actor sydd yr un mor gyfarwydd yn camu i esgidiau'r cymeriad 'Keith Gurkha'.
Ers i ni gyfarfod cymeriadau lliwgar Maes Menai, am y tro cyntaf yn 2002, yr actor Rhodri Meilir sydd wedi bod yn chwarae rhan Keith, yr ieuengaf o dri o blant Charlie a Carys Gurkha.
Ond ar gyfer y gyfres ddiweddara o STAD, Llŷr Evans o'r Felinheli fydd yn portreadu Keith.
Mae STAD yn ddilyniant o'r cyfresi cyntaf o Tipyn o Stad, a ddarlledwyd rhwng 2002-2008, ac fe ddychwelodd y cymeriadau ar gyfer y gyfres ar ei ffurf newydd 'STAD' yn 2022.
Mae Llŷr Evans yn wyneb cyfarwydd iawn i wylwyr S4C, ac mae wedi ymddangos yn nifer o ddramâu’r sianel dros y 30 mlynedd diwethaf, gan gynnwys Pengelli, Rownd a Rownd, Yr Heliwr, a'r Gwyll. Mae hefyd wedi bod yn un o sêr cyson sioeau clybiau Theatr Bara Caws.
Fe ddaeth Llŷr i amlygrwydd rhyngwladol wrth serennu ochr yn ochr â'i frawd Rhys Ifans yn y ffilm Twin Town yn 1997.
Wrth siarad â Newyddion S4C yn dilyn dangosiad cyntaf o'r gyfres newydd yr wythnos hon, dywedodd Llŷr: "O’n i’n camu mewn i ‘sgidiau rhywun oedd wedi actio’r cymeriad yn flaenorol, Rhodri Meilir.
"Ond o’n i arfer rhannu tŷ gyda Rhodri Meilir pan ‘odd o’n chwarae Keith nôl yn Tipyn o Stad blynyddoedd maeth yn ôl.
"Ond ‘nes i ffonio fo i ofyn os ga’i ganiatad i gamu mewn i ‘sgidiau fo achos wrth gwrs o’n i ddim ishio fo i gael sioc."
Ychwanegodd: "Dwi’n gweld transformation of cymeriad Keith, ti’n gwybod, ti’n cael Dr Who newydd, ti’n cael James Bond newydd.
"So mae siwr bod o fatha – Rhodri Meilir – fatha Sean Connery, dwi mwy fatha Daniel Craig ‘swn i’n dweud."
Roedd yn brofiad arbennig cael ffilmio yn lleol yn ôl Llŷr.
"Mae bywyd actor yng ngogledd Cymru yn gallu bod yn fywyd unig dros ben achos ti ddim yn gweithio’n aml, ti goro’ mynd ffwrdd i weithio," meddai.
"So ‘odd o’n neis bod ‘na rywbeth yn cael ei ‘neud yn lleol, yn defnyddio criw lleol, actorion lleol.
"Dwi meddwl bod S4C angen mynd allan i’r cymunedau i ‘neud cynhyrchiadau. Odd hi’n hyfryd gallu mynd adre’ i’m gwely y’n hun bob nos."
'Pob haenen o gymdeithas'
Mae'r gyfres hefyd yn "adlewyrchiad o Gaernarfon" yn ôl Llŷr.
"Mae Caernarfon neu Gwynedd yn enwedig lle gei di pob haenen o gymdeithas yn medru’r Gymraeg," meddai.
"Mae bob haenen o gymdeithas yn cyfathrebu drwy’r Gymraeg a mae hwnna’n cael ei adlewyrchu yn y rhaglen."
Byddai Llŷr wrth ei fodd yn dychwelyd ar gyfer cyfres arall.
"Sa fo’n fendigedig cael dod nôl, jyst gobeithio bod nhw’n dod â Sean Connery nôl hefyd," meddai.
"Swn i wrth fy modd ‘neud o eto ond gawn ni weld sut eith y gyfres yma lawr.
"Oes mae ‘na hiwmor ynddi, ond mae ‘na hiwmor tywyll iawn a mae ‘na ddigwyddiad reit dwys hefyd."