Arestio ceisiwr lloches wedi iddo gael ei ryddhau o'r carchar mewn camgymeriad

Hadush Gerberslasie Kebatu

Mae ceisiwr lloches a gafodd ei ryddhau o'r carchar mewn camgymeriad wedi cael ei arestio fore Sul. 

Roedd Hadush Gerberslasie Kebatu, 38 oed, yn y carchar am ymosod yn rhywiol ar ferch 14 oed a dynes yn Epping, Essex.

Roedd wedi bod yn byw yng ngwesty'r Bell yn Epping cyn iddo gael ei garcharu am 12 mis ym mis Medi.

Fe gafodd Kebatu ei weld ychydig cyn 20:00 yn ardal Dalston o Hackney nos Wener.

Mewn diweddariad fore Sul, dywedodd Heddlu'r Met fod Kebatu wedi cael ei arestio yn ardal Finsbury Park o'r brifddinas.

Dywedodd Scotland Yard ei fod wedi cael ei arestio yng ngogledd Llundain am tua 08:30. 

Dywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer y bydd "yn cael ei anfon o'r Deyrnas Unedig" a bod "yn rhaid sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto".

Ychwanegodd James Conway o Heddlu'r Met: "Mae hwn wedi bod yn ymchwiliad cyflym o dan arweiniad swyddogion arbenigol gan Heddlu'r Met, ac wedi eu cefnogi gan Heddlu Essex a Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

"Fe wnaeth gwybodaeth gan y cyhoedd arwain swyddogion at Finsbury Park ac yn dilyn ymgyrch chwilio, daethant o hyd i Mr Kebatu. Fe gafodd ei arestio gan yr heddlu ond fe fydd yn dychwelyd i'r ddalfa at y Gwasanaeth Carchardai.

"Dwi'n ddiolchgar iawn i'r cyhoedd am eu cefnogaeth yn dilyn ein hapêl, a wnaeth ein helpu wrth ddod o hyd i Mr Kebatu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.