Mimi Xu yn ennill Pencampwriaeth Tenis Agored Wrecsam
Mae’r Gymraes Mimi Xu wedi ennill Pencampwriaeth Tenis Agored Wrecsam.
Fe gurodd Xu, sy’n 18 oed o Abertawe, Mika Stojsavljevic hefyd o Brydain yn y rownd derfynol brynhawn Sul o ddwy set i ddim, 6-3 a 7-5.
Roedd Xu yn llawer rhy gryf i’w gwrthwynebydd wrth iddi ennill y set gyntaf mewn 38 munud.
Fe frwydrodd Stojsavljevic yn ôl yn yr ail hanner i wneud pethau’n anoddach i Xu.
Fe lwyddodd Stojsavljevic i achub dau bwynt am y bencampwriaeth yn ei herbyn yn y gêm olaf i ddod â’r sgôr yn gyfartal.
Ond fe lwyddodd Xu gyda’r ddau bwynt nesaf i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Fe gamodd Xu i’r cwrt unwaith eto yn hwyrach brynhawn ddydd Sul i ennill y dyblau gyda’i phartner Ella McDonald gan guro Amarni Banks o Brydain a Valentina Ryser o’r Swisdir o 2-0, 6-2 a 6-4.
Llun: X/TennisWales