Teyrnged i 'fam a merch gariadus' wedi i gorff gael ei ganfod yn Sir Ddinbych
Mae teulu dynes a gafodd ei darganfod yn farw ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych, fore Gwener wedi rhoi teyrnged iddi.
Bu farw Angela Shellis, 45, yn y digwyddiad.
Mae dyn 18 oed yn parhau yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae swyddogion yn parhau i'w holi.
Dywedodd llefarydd ar ran teulu Ms Shellis: "Roedd Angela yn ferch, chwaer, mam a modryb gariadus a fydd yn cael ei cholli yn ofnadwy."
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andy Gibson: "Mae'r teulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol ac yn gofyn i'w preifatrwydd gael ei barchu yn ystod yr amser trasig yma.
"Dwi'n apelio ar unrhyw un oedd o gwmpas ardal y Morfa ger y caeau pêl-droed rhwng 03:00 a 08:30 fore Gwener.
"P'un ai ydych chi'n credu bod gennych chi unrhyw beth arwyddocaol i gynnig i'r ymchwiliad, mae'n hanfodol ein bod ni'n adnabod unrhyw berson oedd yn yr ardal yn yr oriau allweddol yma."
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod C165084.