Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma grynodeb o rai o'n prif straeon ar fore dydd Llun, 24 Mai.
Llacio cyfyngiadau ar ymwelwyr cartrefi gofal
O ddydd Llun, bydd rheolau yn caniatáu i unrhyw un gael mynd i ymweld ag aelod o’r teulu neu gyfaill mewn cartref gofal. Cyn hyn, roedd ymweliadau tu mewn wedi cael eu cyfyngu i ddau berson penodedig yn unig.
Pryderon fod mamiaith plant Llydaw yn y fantol
Yn ôl Lleuwen Steffan, mae penderfyniad i atal deddf fyddai wedi caniatáu mwy o ddefnydd o’r Llydaweg mewn ysgolion yn “peryglu dyfodol” mamiaith plant y rhanbarth. Roedd y gantores, sydd wedi byw yn Llydaw ers deng mlynedd bellach, yn ymateb i benderfyniad Cyngor Cyfansoddiadol Ffrainc ddydd Gwener.
Llofruddiaeth Cei Connah: Rhyddhau merch ar fechnïaeth
Mae merch 16 oed wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth wrth i’r heddlu barhau i ymchwilio i ymosodiad difrifol yn Sir y Fflint. Bu farw Dean Michael Bennett, 31 oed, ar ôl cael ei drywanu yng Nghei Connah ddydd Sadwrn.
Casnewydd yw’r ail dîm pêl-droed o Gymru'r penwythnos hwn i sicrhau eu lle yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Wembley. Yn dilyn buddugoliaeth Abertawe dros Barnsley yng ngemau ail gyfle’r Bencampwriaeth, mae Casnewydd wedi curo Forest Green Rovers o 5-4 dros ddau gymal y gêm ail gyfle gyn-derfynol yn Adran Dau.
Arestio naw o bobl ifanc ar amheuaeth o anrhefn treisgar yng Nghwmbrân
Mae naw o bobl ifanc yn eu harddegau wedi cael eu harestio yng Nghwmbrân ar amheuaeth o anrhefn treisgar. Dywedodd Heddlu Gwent fod swyddogion wedi derbyn adroddiadau am grŵp o bobl ifanc oedd ag arfau yn ardal Ffordd Wern yn y dref o gwmpas 15.00 ddydd Sul.
Anhrefn Abertawe: Arestio tri dyn arall
Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau fod tri dyn arall wedi cael eu harestio fel rhan o'r ymchwiliad i ddigwyddiad yn Abertawe nos Iau, 20 Mai. Cafodd y tri dyn, 18, 21 oed a 23 oed eu harestio ar amheuaeth o achosi trais - gan ychwanegu at y pedwar, 36, 20, 18 a 16 oed, gafodd eu harestio ddydd Sadwrn.
Cofiwch ddilyn y datblygiadau diweddaraf ar ap a gwefan Newyddion S4C drwy gydol y dydd.