Newyddion S4C

Pryderon fod mamiaith plant Llydaw yn y fantol

24/05/2021

Pryderon fod mamiaith plant Llydaw yn y fantol

Yn ôl Lleuwen Steffan, mae penderfyniad i atal deddf fyddai wedi caniatáu mwy o ddefnydd o’r Llydaweg mewn ysgolion yn “peryglu dyfodol” mamiaith plant y rhanbarth.

Roedd y gantores, sydd wedi byw yn Llydaw ers deng mlynedd bellach, yn ymateb i benderfyniad Cyngor Cyfansoddiadol Ffrainc ddydd Gwener.

Byddai Deddf Molac wedi caniatáu i ysgol gynnal gwersi trwy ieithoedd lleiafrifol fel Llydaweg, y Fasgeg a’r iaith Gorsicaidd.  

Cafodd y ddeddf ei chyflwyno gan Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc ym mis Ebrill, ond cafwyd ei hatal ar gan y Cyngor Cyfansoddiadol ar y sail ei bod yn “anghyfansoddiadol”.

Mae cyfansoddiad ysgrifenedig Ffrainc yn datgan mai “Ffrangeg yw iaith swyddogol Ffrainc”.

Dywed Lleuwen, sydd â phlant mewn ysgol ddwy-ieithog yn Llydaw, bydd atal y ddeddf yn effeithio ar “hyder” plant i ddefnyddio Llydaweg.

“Mae holl statws i mamiaith nhw yn y fantol,” meddai.

“Mae o’n cael ei ddiraddio i’r fath radda, nes bo nhw, masiwr, yn teimlo bod eu iaith nhw ddim yn werthfawr.

“Achos does dim gwerth i’r iaith mewn unrhyw statws swyddogol – a rŵan yn yr ysgol hefyd, un o’r unig lefydd lle maen nhw’n defnyddio’r Llydaweg.”

Yn dilyn pleidlais unfrydol o blaid y ddeddf yn y Cynulliad, gwnaethpwyd cais i’w disodli gan Weinidog Addysg Ffrainc, penderfyniad a gafodd ei alw fel “cyllell yn y cefn” gan y Prifardd Aneirin Karadog.

Ddydd Gwener cafodd y ddeddf ei gwrthod gan y Cyngor Cyfansoddiadol, sy’n cael y gair olaf ar gyfer holl ddeddfwriaethau Ffrainc.

Gwnaethpwyd y penderfyniad hefyd i wahardd y defnydd o sillafiadau brodorol mewn dogfennau swyddogol.

‘Dyfodol ansicr’

Ar ben hynny, mae rhwydwaith ysgolion Llydaweg, Diwan, yn ofni fod y penderfyniad yn awgrymu bod arlwy ysgolion sydd eisoes yn addysgu trwy’r Llydaweg, hefyd yn anghyfansoddiadol.

“Mae o yn creu dyfodol ansicr iawn i statws Llydaweg.

“Fydd petha ddim yn newid dydd Llun, fydda nhw yn mynd i’r ysgol ac yn cael eu gwersi fel arfer.

“Ond y gwir amdani ydy bydd y cymal yma yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol, i israddio ac iselhau'r Llydaweg, ac i dynnu fo allan o’r ysgolion ac o unrhyw faes swyddogol arall."

Llun: Lleuwen Steffan

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.