Newyddion S4C

Anhrefn Abertawe: Arestio tri dyn arall

23/05/2021
Trais yn Mayhill

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau fod tri dyn arall wedi cael eu harestio fel rhan o'r ymchwiliad i ddigwyddiad yn Abertawe nos Iau, 20 Mai. 

Cafodd y tri dyn, 18, 21 oed a 23 oed eu harestio ar amheuaeth o achosi trais - gan ychwanegu at y pedwar, 36, 20, 18 a 16 oed, gafodd eu harestio ddydd Sadwrn. 

O'r saith sydd wedi eu harestio, mae dau ddyn, 21 a 23 oed, yn parhau yn y ddalfa tra bod y pump arall wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth gydag cyrffiw nos llym. 

Dechreuodd y trais ar ffordd Waun-Wen ar ôl gwylnos i ddyn lleol oedd wedi marw, a'r gred yw bod hyd at 200 o droseddwyr wedi cymryd rhan yn y digwyddiad yn ystod un cyfnod.

Anhrefn Abertawe: Arestio tri dyn a llanc ifanc

Mark Drakeford yn beirniadu'r anhrefn yn Abertawe nos Iau

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.