Anhrefn Abertawe: Arestio tri dyn a llanc ifanc
Anhrefn Abertawe: Arestio tri dyn a llanc ifanc
Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi fod tri dyn a llanc wedi cael eu harestio yn dilyn anhrefn yn Abertawe nos Iau.
Cafodd y dynion lleol, sydd yn 36, 20, 18 ac 16 mlwydd oed, eu harestio ar amheuaeth o achosi trais ac mae'r pedwar yn parhau yn y ddalfa.
Mae'r arestiadau yn dilyn sylwadau gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Jenny Gilmer, oedd yn disgrifio'r golygfeydd yn Mayhill fel rhai “gwbl annerbyniol”.
Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, eisoes wedi beirniadu’r digwyddiad lle cafodd saith o swyddogion eu hanafu.
Dechreuodd y trais ar ffordd Waun-Wen ar ôl gwylnos i ddyn lleol oedd wedi marw.
Mae Wales Online yn adrodd fod rhieni’r dyn ifanc wedi pledio i’r trais ddod i ben.
'Falch o weld arestiadau'
Dywedodd Aelod Senedd De Orllewin Cymru dros y Ceidwadwyr, Tom Giffard ei fod yn "falch o weld fod arestiadau yn cael ei gwneud.
"Dwi'n gofyn i bobl yn y cymuned sydd â lluniau a fideos i anfon nhw at yr heddlu," meddai.
Fore Sadwrn fe wnaeth yr Uwcharolygydd Marc Attwell dros Heddlu'r De ysgrifennu ar ei gyfrif Trydar y bydd ef a'i swyddogion yn gweithio ar ddiwrnodiau lle roeddent i fod i ffwrdd o'r gwaith.
Dywedodd: "Mae'r uwch swyddogion dw i'n gweithio gyda nhw i fewn dros y penwythnos i gadw de Cymru yn ddiogel.
"Maent yn cynnal gweithrediadau trefn gyhoeddus ar raddfa fawr, yn goruchwylio lleoliadau gydag arfau, neu'n cyfarwyddo ymchwiliadau cudd - nid oes y fath beth ag swydd 9 tan 5 ar gyfer ein huwch arweinwyr yma yn Heddlu De Cymru".
Y gred yw bod hyd at 200 o droseddwyr wedi cymryd rhan yn y digwyddiad yn ystod un cyfnod nos Iau.
Dywedodd heddlu’r de eu bod nhw’n “hyderus” y bydd yr holl unigolion a gymerodd rhan yn yr anhrefn yn cael eu hadnabod maes o law.
Mae’r ymchwiliad i’r achos yn parhau, gyda’r heddlu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un fyddai’n gallu helpu.
Gofynnwyd i unrhyw un sydd â lluniau neu gynnwys fideo o’r digwyddiad i’w hanfon draw i’r heddlu.
Cadarnhaodd Cwnstabl Jenny Gilmer y bydd “rhagor o bresenoldeb” yn yr ardal trwy gydol y penwythnos.
“Os bydd y rhai sy’n gysylltiedig â’r achos yn dychwelyd ac yn bygwth diogelwch y cyhoedd yng nghymuned Mayhill, mi fyddwn ni’n delio â nhw yn gadarn.
Rydym yn canolbwyntio nawr ar gynnal ymchwiliad llawn i’r digwyddiad ofnadwy hwn,” meddai Jenny Gilmer wedyn.
“Byddwn yn defnyddio teledu cylch cyfyng a lluniau cyfryngau cymdeithasol i’n helpu i adnabod ac arestio’r rhai sy’n gyfrifol.
“Roedd lefel y trais tuag at y gwasanaethau brys a’r difrod i adeiladau a cherbydau yn gwbl annerbyniol.
Mae’r heddlu wedi diolch i’r cyhoedd am eu cefnogaeth yn ystod yr ymchwiliad.