Mark Drakeford yn beirniadu'r anhrefn yn Abertawe nos Iau
Mark Drakeford yn beirniadu'r anhrefn yn Abertawe nos Iau
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi beirniadu anhrefn yn ardal Mayhill o ddinas Abertawe nos Iau.
Mewn datganiad, fe ddywedodd Mr Drakeford: "Mae’r trais y gwelwn yn Abertawe neithiwr yn hollol annerbyniol.
"Dydyn ni ddim yn goddef yr ymddygiad yma unrhyw le yng Nghymru", ychwanegodd.
Fore Gwener, fe ddechreuodd Cyngor Dinas Abertawe ar y gwaith o lanhau wedi'r golygfeydd yn yr ardal nos Iau.
Mae Heddlu De Cymru hefyd wedi dechrau ymchwiliadau i'r achos o anhrefn yn y ddinas.
Dywedodd y llu fod saith swyddog wedi dioddef mân anafiadau yn ystod yr anhrefn.
Mae'r heddlu'n dweud fod y digwyddiad bellach ar ben gyda'r sawl a oedd ynghlwm â'r digwyddiad wedi gwasgaru.
Mewn datganiad, fe wnaeth yr heddlu annog pawb i beidio â dychwelyd i'r ardal ac y byddai'r llu yn parhau i fod yn weledol drwy gydol nos Iau a bore Gwener.
Fe ychwanegodd Heddlu De Cymru y bydden nhw'n delio'n gadarn ag unrhyw un sy'n dychwelyd a'n bygwth diogelwch y cyhoedd ymhellach.
Mae un dyn wedi sôn wrth Wales Online am yr olygfa wrth i'w gar gael ei roi ar dân ac wrth i friciau gael eu taflu ato fe a'i dŷ.
Cafodd lluniau a fideos eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol a oedd yn dangos car yn cael ei wthio i lawr bryn yn yr ardal, cyn taro i mewn i gar arall a oedd ar dân.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod angen i drigolion yr ardal aros yn eu tai dros nos tra bod ymchwiliadau i'r digwyddiad yn parhau.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Tim Morgan: "Roedd digwyddiad neithiwr yn gwbl annerbyniol a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i adnabod y sawl sy'n gyfrifol.
"Hoffwn sicrhau cymuned Mayhill y gall y sawl a oedd ynghlwm a'r digwyddiad ddisgwyl wynebu gweithredu cadarn. Mae'r ymchwiliadau wedi'r digwyddiad eisoes wedi dechrau i adnabod pawb oedd yn rhan o hyn".
'Ofnadwy deffro i'r golygfeydd'
Dywedodd Luke Fletcher, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Dde Orllewin Cymru: "Mae'n ofnadwy deffro i'r golygfeydd yn Mayhill neithiwr. Dylai bobl deimlo'n ddiogel yn eu cymunedau. Bydd Sioned Williams (AS Plaid Cymru, De Orllewin Cymru) a finnau'n edrych nawr i ymateb yr heddlu i ddigwyddiadau, a byddwn yn edrych i ddarganfod achosion craidd yr ymddygiad hwn".
Dywedodd yr Aelod o'r Senedd Ceidwadol dros Dde Orllewin Cymru, Tom Giffard, nos Iau: "Golygfeydd ysgytwol o Mayhill ar gyfryngau cymdeithasol heno".
"Gobeithiaf y caiff hyn ei sortio cyn gynted â phosib", ychwanegodd.
Rhannodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru ei ymateb yntau i'r golygfeydd hefyd. Dywedodd Jeremy Vaughan: "Wedi fy nhristau a'n gynddeiriog am ddigwyddiadau yn Abertawe neithiwr. Bydd cymaint o deuluoedd wedi eu poenydio gan y rhai sy'n gyfrifol, credwch na fyddwn ni yn Heddlu De Cymru yn oedi i'w darganfod. Byddwn yn gweithio'n galed gydag eraill i helpu a chefnogi preswylwyr lleol sy'n haeddu gwell na hyn".
Mae Heddlu De Cymru wedi gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth neu a fyddai'n gallu bod o gymorth wrth adnabod y sawl sy'n gyfrifol i gysylltu â'r llu gan ddefnyddio rhif digwyddiad 992 ar 20 Mai.
Prif lun: Cyngor Dinas Abertawe