Llofruddiaeth Cei Connah: Rhyddhau merch ar fechnïaeth
24/05/2021
Mae merch 16 oed wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth wrth i’r heddlu barhau i ymchwilio i ymosodiad difrifol yn Sir y Fflint.
Bu farw Dean Michael Bennett, 31 oed, ar ôl cael ei drywanu yng Nghei Connah ddydd Sadwrn.
Cafodd tri o bobl eu harestio ar amheuaeth o lofruddio, gyda dynes 46 oed a dyn 35 oed yn parhau yn y ddalfa.
Dywed Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn parhau i apelio am dystion ac yn annog unrhyw un a allai fod â gwybodaeth all gynorthwyo gyda’u hymchwiliad i gysylltu â’r llu.