Dyn ifanc yn cwblhau her Ironman llai na 9 mis ers 'methu rhedeg 50 metr'

Owen Peddle

"I ddyn fel fi oedd wedi dechrau hyfforddi yn 23 stôn, fyddai cwblhau’r her 'ma yn wych."

Dyna ddywedodd Owen Peddle wrth Newyddion S4C tri mis wedi iddo ddechrau ymarfer ar gyfer her hanner Ironman Abertawe.

Roedd y dyn 24 oed "mewn cylchred o fynd allan pob wythnos ac roeddwn i eisiau torri i ffwrdd o hynny."

Ond ddydd Sul, roedd y dyn ifanc doedd "methu rhedeg 50 metr" ychydig fisoedd yn ôl, wedi nofio 1.2 milltir, seiclo 56 milltir a rhedeg hanner marathon mewn amser o 8 awr a 32 munud.

Trwy gydol yr ymarfer roedd Owen yn ffilmio ei sesiynau ymarfer ar TikTok yn y gobaith o "ysbrydoli eraill" a bellach mae ganddo dros 50,000 o ddilynwyr ar ei gyfrifon TikTok ac Instagram.

Image
Owen Peddle yn Abertawe cyn cystadlu yn Ironman
Owen Peddle yn Abertawe cyn cystadlu yn Ironman. (Llun: Instagram/Owen Peddle)

Dros y naw mis diwethaf mae Owen wedi llwyddo i golli pedwar stôn a deg pwys wrth ymarfer am yr her, ac ar ei gyfrif Instagram, fe wnaeth ddiolch i bawb am eu cefnogaeth dros y cyfnod.

“Mae’r naw mis diwethaf o fy mywyd wedi bod yn wallgof, hollol wallgof," meddai.

“O lusgo fy hun o le ddechreuais i le’r ydw i nawr, mae wedi bod yn daith anhygoel a dwi ddim yn gallu bod yn fwy balch o’n hun.

“Byddwn i ddim wedi cyrraedd fan hyn heblaw’r holl gymorth gan fy hyfforddwr a’m ffrindiau. Byddwn i ddim yma hebddo chi, felly diolch i chi gyd am bopeth rydych chi wedi gwneud.

“Nid yw geiriau yn gallu cyfleu fy niolch i chi.

“Ac mae’r cariad gan bawb ar y cyfryngau cymdeithasol, pawb sydd wedi fy nghefnogi ar hyd y daith a chredu mewn rhywbeth nad oedd modd cyflawni wedi bod yn wych.”

Image
Mae Owen wedi bod yn dogfennu ei sesiynau ymarfer ar TikTok
Roedd Owen yn pwyso 23 stôn cyn cychwyn ymarfer ar gyfer Ironman. (Llun: TikTok/Owen Peddle)

'Nid dyma'r diwedd'

Trwy gydol y ras yn Abertawe roedd y dorf yn ei gefnogi ac roedd croeso enfawr iddo wrth groesi'r llinell derfyn.

Ei ffrind Evan Davies sydd wedi bod yn hyfforddi Owen dros y misoedd diwethaf.

Dywedodd mai dyma’r dechrau yn unig i Owen.

“Mae hwn wedi bod yn daith enfawr i bawb oedd yn rhan ohono," meddai ar Instagram.

“Sesiynau ymarfer oedd wedi mynd yn dda, sesiynau oedd heb fynd mor dda.

“Camgymeriadau gyda bwyd a digwyddiadau cymdeithasol, ond mae hynny’n anochel gyda gwneud rhywbeth fel hyn. Doedd e byth mynd i fod yn berffaith.

“Mae’r newidiadau corfforol wedi bod yn enfawr ond mae'r newid yn dy agwedd at fywyd yn gyffredinol wedi bod y peth gorau am y daith hon.

“Dwi’n credu bod y ddau ohonom yn cytuno nad dyma yw diwedd y daith.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.