Enwi dyn a fu farw wedi ymosodiad ‘difrifol’ yng Nghei Connah
Mae Heddlu’r Gogledd wedi cyhoeddi enw dyn a fu farw ar ôl cael ei drywanu yng Nghei Connah dydd Sadwrn.
Cafodd Dean Michael Bennett, 31 oed, ei gludo i Ysbyty Aintree yn Lerpwl wedi'r achos, ond bu farw ar ôl cyrraedd yr ysbyty.
Mai tri o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio, dynes 46 oed, dyn 35 oed a merch 16 oed.
Mae'r tri yn parhau yn y ddalfa.
Cafodd swyddogion eu galw i ardal Ffordd y Doc ychydig wedi 17:00, ddydd Sadwrn 22 Mai.
Meddai’r Ditectif Prif Arolygydd Sion Williams: “Rydym yn cydymdeimlo’n dwys a theulu a ffrindiau Dean ar yr adeg anodd iawn yma.
“Rydym yn dalld fod digwyddiad difrifol fel hyn yn achosi pryder yn y gymuned leol, a hoffwn dawelu meddwl trigolion ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu er mwyn darganfod beth ddigwyddodd. Mae swyddogion yn parhau i fod ar batrôl yn yr ardal.
“Er mwyn cynorthwyo’r ymchwiliad dwi’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth, yn enwedig unrhyw un a oedd yn dŷst i’r digwyddiad, neu unrhyw un a oedd yn ardal Dock Road toc cyn 5 o’r gloch, i gysylltu â ni gan roi’r rhif cyfeirnod 21000329322."