Casnewydd yn mynd i Wembley
24/05/2021
Casnewydd yw’r ail dîm pêl-droed o Gymru'r penwythnos hwn i sicrhau eu lle yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn Wembley.
Yn dilyn buddugoliaeth Abertawe dros Barnsley yng ngemau ail gyfle’r Bencampwriaeth, mae Casnewydd wedi curo Forest Green Rovers o 5-4 dros ddau gymal y gêm ail gyfle gyn-derfynol yn Adran Dau.
Darllenwch adroddiad llawn o'r gêm gan Golwg360 yma.
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans