Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru'n colli 0-1 yn erbyn Denmarc
Yn dilyn y fuddugoliaeth gampus o 2-1 yn erbyn Norwy nos Iau, roedd dynion Craig Bellamy yn dychwelyd i Stadiwm Dinas Caerdydd yn llawn hyder.
Ac er mai colli oedd hanes Cymru yn erbyn Denmarc o 2-0 oddi cartref yn Copenhagen wythnos yn ôl, roedd gan y crysau cochion ddigon o reswm i obeithio wrth groesawu'r ymwelwyr i Gaerdydd nos Sul, gyda Grŵp D bellach yn llydan agored.
Dim ond un newid oedd yn nhîm Cymru, gyda Brennan Johnson yn dechrau yn lle Dan James.
Roedd Denmarc yn dod i Gaerdydd ar ôl colli 4-2 yn erbyn Portiwgal nos Iau, ac nid oedd y chwaraewr dylanwadol Mikkel Damsgaard ar gael iddyn nhw o achos anaf.
Dechreuodd Cymru'n hyderus wedi ychydig o funudau nerfus ac fe ergydiodd Ethan Ampadu o bell wedi pum munud ond roedd ei ymgais yn rhy uchel.
Cyfle i Ddenmarc ymosod ychydig funudau wedyn ar ôl pas flêr gan Ben Cabango, gan adael lle yn y cwrt cosbi i Rasmus Hojlund - ond ofer oedd ei ergyd.
Bu'n rhaid i Pierre-Emile Hojbjerg, capten Denmarc, adael y cae gydag anaf wedi cwta naw munud o chwarae - oedd yn ergyd i'r ymwelwyr.
Andreas Skov Olsen ddaeth i'r cae yn ei le.
Fe dyfodd hyder Cymru wrth i'r gêm ddatblygu, gyda seren y gêm yn erbyn Norwy, Sorba Thomas, unwaith eto yn dangos ei allu ar yr asgell.
Daeth cyfle i Lewis Koumas wedi cyd-chwarae campus rhwng Neco Williams a Brennan Johnson, ond fe redodd allan o gae gydag amddiffyn Denmarc yn aros yn gadarn.
Roedd Denmarc yn galw am gic o'r smotyn wedi 21 o funudau, ond daeth VAR i'r casgliad nad oedd Ben Davies wedi troseddu yn erbyn Isaksen.
Aeth y dyfarnwr i'w bocoed ychydig cyn hanner awr o chwarae, gydag enw Liam Cullen yn mynd i'w lyfr a derbyn cerdyn melyn am drosedd ar Maehle.
Er fod Cymru'n rheoli am gyfnodau, roedd Denmarc yn fodlon bod yn amyneddgar gan ddwyn cyfleoedd i wrthymosod o dro i dro.
Daeth cic rydd i Gymru wedi 37 o funudau - gyda Sorba Thomas yn ergydio o'r asgell chwith gyda'r bêl yn glanio yn nwylo golwr Denmarc.
Yn fuan wediyn fe ddaeth trydedd cic gornel Denmarc - gyda Ben Davies yn sefyll yn gadarn i benio'r bêl allan.
Daeth bygythiad gyda munud o'r hanner ar ôl, gyda chic gosb i Ddenmarc - ond ergyd wastraffus Gustav Isaksen yn taro wal goch chwaraewyr Cymru.
Y sgôr ar yr egwyl oedd 0-0 - adlewyrchiad o 45 munud hafal o chwarae rhwng y ddau dîm, gyda'r ddau yn pwyso ar adegau.
Fe ddechreuodd yr ail hanner yn debyg i ddiwedd y cyntaf, gyda'r ddau dîm yn ceisio chwilio am fylchau i'w torri.
Gyda 50 munud ar y cloc, fe ddaeth cyfle gorau Denmarc - Hojlund yn derbyn croesiad gan Olsen - ond Danny Ward gydag arbediad campus gan ddefnyddio ei goes.
Ychydig funudau wedyn fe gafodd Cymru gyfle wedi chwip o groesiad gan Sorba Thomas unwaith eto - ond Cullen heb ddigon o rym ar ei beniad i fanteisio.
Daeth Mark Harris a Josh Sheehan ar y cae wedi 56 o funudau y lle Lewis Koumas a Jordan James.
Bu'n rhaid i Gymru ddibynnu ar Danny Ward yn fuan ar ôl hynny wedi iddo wneud arbediad penigamp o beniad Isaksen.
Roedd hyder Denmarc yn tyfu a'r nerfau yn dechrau dangos ar gefnogwyr Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Fe frwydrodd Cymru yn ôl - gyda chyfle wedi 62 o funudau ar ôl i Sorba Thomas, eto fyth, anelu croesiad gelfydd at Brennan Johnson, ond roedd ei ergyd o ochr y cwrt cosbi yn ofer.
Trosedd wyllt
Ar ôl perfformiad mor arwrol yn gynharach, fe roddodd Danny Ward gyfle i Ddenmarc fynd ar y blaen gyda chic o'r smotyn ar ôl trosedd wyllt y y cwrt cosbi wedi 75 munud o chwarae.
Doedd dim rheswm nag esgus am yr hyn a wnaeth - ac fe gafodd Cymru eu cosbi ar ôl i Rasmus Hojlund sgorio'r gic yn hawdd.
Cymru 0-1 Denmarc, gyda chwarter awr ar ôl.
Siomedig dros ben, ar ôl perfformiad cymaint gwell na'r un yn Copenhagen.
Tro Denmarc oedd hi i eilyddio wedi 81 munud - Isaksen a Hojlund yn gadael a Hogh a Kvistgaarden yn dod ymlaen yn eu lle.
Yn fuan wedyn fe adawodd Ben Davies y cae ar ôl perfformiad disglair - gyda Kieffer Moore yn dod i'r cae fel eilydd.
Ond doedd y newidiadau ddim yn ddigon - gyda rhwystredigaeth yn dechrau ymddangos wrth i ambell bas flêr fethu â chyrraedd y targed.
Y canlyniad ar y chwiban olaf: Cymru 0-1 Denmarc.