Llacio cyfyngiadau ar ymwelwyr cartrefi gofal
Bydd nifer amrywiol o bobl yn cael ymweld â chartrefi gofal am y tro cyntaf ers dechrau’r pandemig wrth i gyfyngiadau gael eu llacio yng Nghymru.
O ddydd Llun, bydd rheolau yn caniatáu i unrhyw un gael mynd i ymweld ag aelod o’r teulu neu gyfaill mewn cartref gofal. Cyn hyn, roedd ymweliadau tu mewn wedi cael eu cyfyngu i ddau berson penodedig yn unig.
Yn unol â’r rheolau, dim ond dau berson sy’n cael ymweld ag unigolyn ar y tro, ond nid oes rhaid i’r ddau berson hynny berthyn i’r un aelwyd neu swigen estynedig.
Er hynny, mae gan y cartrefi gofal ac awdurdodau lleol hawl i benderfynu a ddylid caniatáu ymweliadau ai peidio.
Bydd rhaid i unrhyw un sy’n ymweld â’r cartrefi gofal gael prawf Covid-19 negyddol cyn cael mynediad, gyda’r rheol i gadw pellter cymdeithasol dal yn ofynnol os nad yw’r unigolion yn rhan o’r un aelwyd neu swigen estynedig.
Cyfraddau'n gostwng
Daw’r newid mewn rheolau wrth i gyfraddau Covid-19 barhau i ostwng yng Nghymru.
Bellach, mae cyfradd yr haint dros 7 diwrnod yn 9.74 i bob 100,000 o’r boblogaeth.
Yn ôl ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 5,566 o bobl bellach wedi marw yn sgil Covid-19, a 212,436 wedi eu heintio â’r firws.
Dros y penwythnos, daeth y cyhoeddiad bod dros filiwn o bobl yng Nghymru wedi eu brechu yn llawn yn erbyn Covid-19, gyda dros 2m hefyd wedi derbyn dos cyntaf o'r brechlyn.