Newyddion S4C

Dros filiwn o bobl yng Nghymru wedi'u brechu yn llawn yn erbyn Covid-19

23/05/2021
Brechlyn Rhydychen/AstraZeneca.  Llun: Prifysgol Rhydychen, John Cairns.

Mae dros filiwn o bobl yng Nghymru wedi cael eu brechu'n llawn yn erbyn Covid-19, yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ar ddydd Sul, 23 Mai, mae 1,000,706 wedi derbyn dau ddos o frechlyn Covid-19, gyda 2,091,824 wedi derbyn y dos cyntaf. 

Golygai hyn fod o ddeutu 30% o boblogaeth Cymru wedi cael eu brechu yn llawn, gyda 66% wedi derbyn eu dos cyntaf. 

Cafodd 46 o achosion newydd o'r feirws eu cadarnhau ddydd Sul, gan ddod a'r cyfanswm achosion i 212, 434 ers dechrau'r pandemig. 

Caerdydd welodd y nifer uchaf o achosion ddydd Sul, gydag wyth, tra gwelodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr gyfanswm o pum achos dros y 24 awr ddiwethaf.

Cafodd dwy farwolaeth newydd eu cofnodi, gan ddod â chyfanswm y marwolaethau oherwydd Covid-19 i 5,566. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.