Arestio naw o bobl ifanc ar amheuaeth o anhrefn treisgar yng Nghwmbrân

Mae naw o bobl ifanc yn eu harddegau wedi cael eu harestio yng Nghwmbrân ar amheuaeth o anhrefn treisgar.
Dywedodd Heddlu Gwent fod swyddogion wedi derbyn adroddiadau am grŵp o bobl ifanc oedd ag arfau yn ardal Ffordd Wern yn y dref o gwmpas 15.00 ddydd Sul.
Fe wnaeth heddlu arfog ymateb i'r digwyddiad fel mesur rhagofalus, gyda bat a bariau metal wedi cael eu darganfod, meddai Wales Online.
Ni chafodd unrhyw anafiadau eu hadrodd, gyda’r rhai sydd wedi cael eu harestio yn parhau yn y ddalfa.
Darllenwch y stori’n llawn yma.