Gyrrwr beic modur wedi marw ym Mhowys

A483

Mae gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys brynhawn dydd Gwener.

Cafodd swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys eu galw am 16:48 wedi adroddiadau am wrthdrawiad rhwng tri cherbyd ar Ffordd yr A483 rhwng Y Clas-ar-wy a Chleirwy.

Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys beic modur Yamaha du, Mini Countryman Cooper du a Volkswagen Polo du.

Dywedodd yr heddlu bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a'r lle.

Ni oedd adroddiadau am unrhyw anafiadau eraill.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys drwy'r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 257 ar 19 Rhagfyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.