Arestio tri am ddwyn £300,000 o beiriannau twll yn y wal

Twll yn y wal

Mae tri pherson wedi cael eu harestio am ddwyn £300,000 o beiriannau twll yn y wal gan gynnwys rhai yng Nghymru.

Fe gafodd y tri o Wolverhampton eu harestio fel rhan o ymchwiliad i dros 30 achos o ddwyn arian o beiriannau twll yn y wal a ddechreuodd ym mis Chwefror eleni.

Dywedodd Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr bod cyfarpar arbenigol wedi cael ei ddefnyddio i dorri i mewn i adeiladau gyda pheiriannau twll yn y wal tu fewn.

Roedd y rhain yn cynnwys gorllewin canolbarth Lloegr, Sir Stafford, Sir Derby a Sir Ddinbych.

Ar 14 achlysur roedd y lladron honedig yn llwyddiannus.

Ar 18 Rhagfyr fe gafodd pump o bobl eu harestio mewn ymgyrch gan yr heddlu.

Ddydd Sadwrn dywedodd y llu bod David Price, 43 ac Adam Walker, 38 o Wolverhampton a hefyd Joanne McGregor o Wednesfield wedi cael eu harestio.

Maen nhw wedi eu cyhuddo o gynllwynio i fyrglera, cynllwynio i drin nwyddau wedi'u dwyn, a meddu ar eiddo troseddol.

Cafodd dau berson arall sydd wedi eu harestio eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.