'Dydy gwahardd cŵn XL Bully ddim yn atal ymosodiadau'
Mae astudiaeth newydd gan ddarlithydd troseddeg o Brifysgol Bangor yn cwestiynu effeithiolrwydd gwahardd bridiau penodol o gŵn fel yr XL Bully, gan ddadlau nad yw’r dull yn atal ymosodiadau.
Mae Lisa Sparkes, sy’n berchen ar ddau gi Mastiff Ffrengig a Cockapoo, yn dweud y dylai’r pwyslais fod ar ddal perchnogion anghyfrifol i gyfrif.
Mae ei hymchwil yn awgrymu bod y gyfraith yn targedu rhai bridiau’n fwy nag eraill, gan atgyfnerthu syniadau negyddol amdanynt yn hytrach na mynd i’r afael â pherchnogaeth anghyfrifol a diffyg hyfforddiant.
Mae hi hefyd yn credu y byddai addysgu plant ac oedolion am sut i ymddwyn o gwmpas cŵn yn helpu i gadw’r cyhoedd yn fwy diogel.
“Dydi'r breed-specific legislation ddim yn gweithio,” meddai Ms Sparkes wrth Newyddion S4C.
“Mae brathiadau cŵn yn dal i ddigwydd, felly ‘dan ni angen newid hyn i 'wbath sy'n mynd i stopio ymosodiadau gan anifeiliaid.”
Ers mis Chwefror 2024, mae bod yn berchen ar gi XL Bully yng Nghymru a Lloegr heb dystysgrif eithrio yn drosedd.
Mae'n golygu y bydd anifeiliaid heb eu cofrestru yn cael eu cymryd a'u perchnogion o bosibl yn cael eu dirwyo a'u herlyn.
Yn ogystal â'r XL Bully mae cŵn Pitbull Terrier, Tosa o Japan, Dogo Argentino a Fila Brasileiro hefyd wedi'u gwahardd.
Stigma yn erbyn cŵn mawr
Dywedodd Ms Sparkes fod ei phrofiadau personol fel perchennog ci mawr wedi dylanwadu ar ei diddordeb yn y pwnc.
Pan ddaeth y cyfyngiadau ar gŵn XL Bully i rym yn 2024, roedd hi’n berchen ar Buster, ci Dogue de Bordeaux sydd bellach wedi marw.
Wrth fynd ag e am dro, dywedodd ei bod wedi cael sawl profiad annymunol gyda phobl a oedd yn tybio ei fod yn beryglus oherwydd ei faint a’i olwg.
“Ges i dipyn o bobl yn croesi lôn. O’n i’n cael pobl yn dweud y dylai’r ci gael ei roi i lawr oherwydd mae’n disgyn dan yr XL Bully ban,” meddai.
Dywedodd Ms Sparkes fod y profiadau hynny wedi peri gofid a rhwystredigaeth iddi.
“Mi oedd o’n frustrating i fi achos oedd y stigma yna - fod o’n gi peryglus - yn cael ei gysylltu efo fo pan doedd o ddim,” meddai.
“Felly mi oedd o’n upsetting i fi, ond hefyd yn upsetting i’r ci.”
Mae Ms Sparkes bellach yn berchen ar ddau Mastiff Ffrengig arall, Boris a Stella, yn ogystal â Bailey y Cockapoo.
Fel Buster, dywedodd fod Boris a Stella yn pwyso tua deg stôn a hanner yr un, ond eu bod yn gŵn "addfwyn".
Mae hi’n dadlau y gall unrhyw gi ymosod, ac y dylai’r gyfraith ganolbwyntio mwy ar gyfrifoldeb y perchennog a’r ffordd mae’r ci’n cael ei fagu a’i hyfforddi.
"Mae o i gyd am sut ‘dan ni’n dwyn nhw i fyny," meddai.
"Mae’r cyfrifoldeb yn disgyn arna' ni really, dim yr anifail."
'Mwy o addysg'
Yn ôl Ms Sparkes, dylai perchnogion fod yn atebol am sicrhau bod eu cŵn yn cael hyfforddiant priodol ac yn byw mewn amgylchedd diogel.
Mae hi hefyd yn credu bod angen mwy o addysg i blant ac oedolion am sut i ymddwyn o amgylch cŵn.
"Dw i 'di cael plant bach yn rhedeg at wyneb y cŵn," meddai.
"Ac er 'sa cŵn fi ddim yn brathu, mae'r risk yna, so it's all about that responsibility - dim jyst ar fi fel perchennog, ond hefyd ar bobl o gwmpas.”
Un o argymhellion Ms Sparkes yw ailgyflwyno system drwyddedu ar gyfer perchnogion cŵn.
Dywedodd y byddai trwyddedu’n helpu i sefydlu cyfrifoldeb clir, a’i bod yn credu y gallai trwydded weithredu fel math o basbort i’r perchennog.
Er bod yn rhaid i gŵn gael microsglodyn, dywedodd fod y system honno’n canolbwyntio ar y ci, yn hytrach na’r person sy’n gyfrifol amdano.
"Mae hwnna ar y ci, dim arna i," meddai. "Felly os fyswn i’n rehomio Boris a Stella a Bailey, mae o i fyny i’r person newydd i newid y microchip."
Mae Ms Sparkes hefyd yn pryderu am effaith y gwaharddiad ar les cŵn, gan ddweud bod nifer o berchnogion wedi ceisio cael gwared ar eu cŵn XL Bully oherwydd y cyfyngiadau a ddaeth i rym yn 2024.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran yr Adran dros Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yn Llywodraeth y DU fod perchnogion unrhyw gi sy’n beryglus o allan o reolaeth yn "torri’r gyfraith".
"Gall ymosodiadau gan gŵn gael canlyniadau dinistriol, a dyna’n union pam rydyn ni’n gweithio gyda’r heddlu, awdurdodau lleol a sefydliadau lles anifeiliaid i leihau nifer yr ymosodiadau a hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn," meddai.