Tad Duges Sussex yn cyfaddef iddo dalu am ryw ond yn gwadu honiadau cam-drin plant

Meghan Markle a'i thad

Mae Thomas Markle Sr, tad Duges Sussex, wedi cyfaddef iddo dalu am ryw ar Ynysoedd Philippines, ond mae’n parhau i wadu honiadau iddo fod â delweddau o blant yn cael eu cam-drin yn rhywiol, yn ei feddiant.

Mae hanner brawd Meghan, Thomas Markle Jr, wedi honni iddo ddod o hyd i gasgliad o ddelweddau yn perthyn i’w tad yn ei gyn-gartref ar Ynysoedd Philippines, yn ôl papur newydd The Sun.

Dywedodd wrth yr heddlu yn y wlad iddo ddod o hyd i luniau a fideos o blant yn cael eu cam-drin, yng nghanol atgofion teuluol, yn ôl adroddiadau.

Mae'r papur newydd yn dweud ei fod hefyd wedi cysylltu ag ymchwilwyr yr FBI yn yr Unol Daleithiau ym mis Gorffennaf.

Mae'r awdurdodau ar Ynysoedd Philippines wedi dweud eu bod yn ymchwilio i’r honiadau.

Mewn cyfweliad â’r Mail on Sunday, dywedodd Thomas Markle Sr nad yw "erioed wedi cael rhyw ag unrhyw un o dan 18 oed".

Dywedodd wrth y papur ei fod, pan oedd yn sengl, wedi teithio i Ynysoedd Philippines o leiaf ddwywaith ac wedi "cysgu gyda phuteiniaid".

"Rwy’n hoffi menywod Asiaidd, ond nid yw hynny’n drosedd," meddai.

"Nid wyf yn ddigon iach i fynd i Ynysoedd Philippines, ond byddaf yn siarad ag unrhyw un sydd eisiau siarad â mi. Does gen i ddim byd i’w guddio."

Mae Mr Markle yn dysgu cerdded eto mewn cyfleuster gofal nyrsio yn Florida, America, ar ôl colli ei goes yn ystod llawdriniaeth i achub ei fywyd yn 2025.

Dywedodd y byddai hefyd yn croesawu unrhyw archwiliad fforensig o’i gyfrifiadur. 

Dywedodd wrth y Mail on Sunday: "Os oes unrhyw beth drwg arno, rhywun arall sydd wedi’i roi yno."

Mae merch hynaf Thomas Markle Sr, Samantha Markle, wedi amddiffyn ei thad. 

"Rwy’n credu mai cynllwyn yw hyn," meddai.

'Honiadau pryderus'

Daw hyn ar ôl i Heddlu’r Met yn Llundain gadarnhau ddydd Sadwrn eu bod wedi trosglwyddo llythyr yn cynnwys honiadau am droseddau honedig gan Thomas Markle Sr y tu allan i’r DU i Ddug a Duges Sussex, ond na wnaethant rannu manylion ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith eraill.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi derbyn llythyr yn 2019 yn ymwneud â "nifer o honiadau" am Mr Markle, gan ychwanegu eu bod yn "adolygu’r modd y cafodd y mater hwn ei drin" a'r posibilrwydd y byddai angen cyfeirio’r achos at gorff gwarchod yr heddlu.

Ddydd Gwener, dywedodd Duges Sussex iddi ddod yn ymwybodol o "honiadau pryderus" am ei thad yn 2018.

Dywedodd iddi gael gweld llythyr a gafodd ei anfon at Scotland Yard wyth mlynedd yn ôl, yn cynnwys "honiadau pryderus" yn erbyn Thomas Markle Sr, a’i bod wedi cael sicrwydd bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Mae llefarydd ar ran Duges Sussex wedi dweud os oes gan yr heddlu gofnod sy’n cadarnhau bod y llythyr wedi’i adolygu yn 2019, y dylid defnyddio’r dyddiad hwnnw i gadarnhau pryd y cafodd ei dderbyn a’i rannu â’r Dduges.

Dywedodd y llefarydd ei bod yn "ddealladwy", o ystyried faint o amser oedd wedi mynd heibio, y gallai'r Dduges "fod wedi camgymryd o rai misoedd".

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Met: "Yn dilyn adolygiad trylwyr o systemau a chofnodion Heddlu’r Met, rydym wedi cadarnhau ein bod wedi derbyn llythyr ym mis Ionawr 2019 yn cynnwys nifer o honiadau am droseddau honedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

"Cafodd y llythyr ei anfon at Uned Ddiogelu’r MPS er mwyn codi pryderon ynghylch diogelwch Duges Sussex.

"Cafodd y llythyr ei adolygu, a daeth penderfyniad i'w drosglwyddo i swyddfa Dug a Duges Sussex er mwyn rhoi gwybod iddynt amdano.

"Ni chafodd manylion am yr honiadau yn y llythyr eu rhannu ag asiantaethau gorfodi’r gyfraith eraill.

"Mae’r MPS yn adolygu’r modd y cafodd y mater hwn ei drin yn 2019 ac yn ystyried a oes angen cyfeirio’r achos at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) er mwyn adolygu ein hymateb."

Dywedodd llefarydd ar ran Duges Sussex: "Wrth gofio digwyddiadau fwy na saith mlynedd yn ôl, heb ddyddiadur nac unrhyw gofnod cyfoes i gyfeirio ato, mae’n ddealladwy y gallai fod wedi camgymryd o rai misoedd.

"Os oes gan Heddlu’r Met gofnod sy’n dangos bod y llythyr wedi’i adolygu yn 2019, dyna’r dyddiad y dylid ei ddefnyddio i gadarnhau pryd y cafodd y llythyr ei dderbyn a’i rannu â’r Dduges.

"Rwy’n credu ei bod yn deg cydnabod ei bod yn gwneud ei gorau i gofio union amseriad digwyddiadau na chawsant eu cofnodi mewn dyddiadur ar y pryd, a bod unrhyw wahaniaeth o rai misoedd yn ddealladwy o ystyried faint o amser sydd wedi mynd heibio."

Perthynas anodd

Daeth perthynas y Dduges â’i thad, a oedd yn arfer gweithio fel cyfarwyddwr goleuo ym myd teledu, i ben yn y cyfnod cyn ei phriodas frenhinol yn 2018, ar ôl iddo gael ei ddal yn trefnu lluniau paparazzi.

Doedd Mr Markle ddim yn bresennol yn y briodas. Ei mam, Doria Ragland, oedd yr unig aelod o’i theulu a oedd yno.

Y Dduges oedd unig blentyn Mr Markle a Ms Ragland, ond mae ganddo ddau o blant, Samantha Markle a Thomas Jr, o briodas flaenorol.

Llun: Cyfryngau cymdeithasol

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.