Cip olwg ar benawdau'r bore

30/11/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C - dyma gip ar benawdau bore dydd Mawrth, o Gymru a thu hwnt. 

Covid-19: Newidiadau i reolau teithio rhyngwladol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheolau teithio newydd ar gyfer pob teithiwr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd nad ydynt ar y rhestr goch. Mae angen i bob teithiwr sydd wedi'i frechu'n llawn sy'n cyrraedd Cymru, gan gynnwys y rhai o dan 18 oed, hunanynysu a chymryd prawf PCR ar ddiwrnod dau neu cyn hynny.

Digartrefedd: Cronfa i roi 'sicrwydd i denantiaid a chartref hir dymor i rentwyr'

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lansio cronfa newydd gwerth £30m er mwyn ceisio mynd i'r afael â digartrefedd. Fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i annog perchnogion adeiladau i gynnig eu heiddo i gynghorau, am addewid o rent a chyllid.

Ghislaine Maxwell wedi 'targedu merched ifanc i gael eu camdrin'

Mae llys wedi clywed sut wnaeth Ghislaine Maxwell "dargedu" merched ifanc ar gyfer cael eu camdrin yn rhywiol wrth i'r achos yn ei herbyn ddechrau dydd Llun. Mae Maxwell wedi'i chyhuddo o droseddau masnachu rhyw ac ymddygiad anaddas tuag at blant dan oed.  

Dathlu yn Barbados dros nos wrth i'r ynys droi'n weriniaeth

Roedd dathliadau yn Barbados dros nos wrth i'r wlad ddisodli'r Frenhines, Elizabeth II fel pennaeth y wladwriaeth. Cafodd y penderfyniad i ddisodli'r Frenhines ei gyhoeddi'n 2020 ar ôl blynyddoedd o gwestiynu rôl y teulu brenhinol a hanes gwladychol yr ynys.

Plannu 5,000 o goed ar hyd a lled Parc Cenedlaethol Eryri

Bydd Parc Cenedlaethol Eryri yn dechrau plannu 5,000 o goed yr wythnos hon. Fel rhan o Wythnos Genedlaethol Coed a dathliadau pen-blwydd y Parc yn 70 bydd y coed yn cael eu plannu ar hyd a lled Parc Cenedlaethol Eryri.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.