Digartrefedd: Cronfa i roi 'sicrwydd i denantiaid a chartref hir dymor i rentwyr'
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lansio cronfa newydd gwerth £30m er mwyn ceisio mynd i'r afael â digartrefedd.
Fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i annog perchnogion adeiladau i gynnig eu heiddo i gynghorau, am addewid o rent a chyllid.
Y bwriad fyddai defnyddio'r eiddo i ddarparu cartrefi fforddiadwy i bobl sydd mewn perygl o ddigartref.
Bydd manylion y gronfa'n cael eu cyhoeddi fel rhan o gynllun ehangach i daclo digartrefedd fydd yn cael ei gyhoeddi yn y Senedd ddydd Mawrth.
Fe fydd y Cynllun Gweithredu Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd yn nodi’r angen i atal problemau sy'n arwain at ddigartrefedd rhag digwydd yn y lle cyntaf, medd y llywodraeth.
Mae disgwyl i'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James gyhoeddi manylion y gronfa newydd gwerth £30m dros bum mlynedd i awdurdodau lleol.
Bydd perchnogion eiddo preifat yn cael eu hannog i gynnig eu heiddo i awdurdodau lleol a’u cyfnewid am warant o rent a chyllid ychwanegol i wella cyflwr eu heiddo.
Bydd modd i awdurdodau lleol ddefnyddio'r eiddo yma i ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd da i bobl sydd yn ddigartref neu sydd mewn peryg o gwympo i ddigartrefedd.
Mae Shelter Cymru wedi disgrifio'r cynllun yn "uchelgeisiol iawn sy'n arwain y ffordd tuag at ddyfodol lle bydd digartrefedd yng Nghymru yn rhywbeth o’r gorffennol.
"Yn ogystal â hyn, mae’n braf o beth gweld bod Llywodraeth Cymru yn deall yn glir na ellir dileu digartrefedd heb ddiwygiadau sylweddol i fynd i’r afael â fforddiadwyedd cartrefi.
"Mae rhenti preifat yng Nghymru yn codi’n uwch nag yn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig, felly mae Llywodraeth Cymru yn torri tir newydd ac yn edrych ar gynlluniau blaengar fel y Cynllun Lesio'r Sector Rhentu Preifat i weithio gyda landlordiaid mewn ffordd bositif fel bod pobl yn gallu cael hyd i gartrefi fforddiadwy, hir dymor a sefydlog.”
Mae’r elusen ddigartrefedd Crisis wedi croesawu’r cynllun newydd.
Dywedodd Jon Sparkes, prif weithredwr Crisis: “Mae'r cynllun yma’n cydnabod yn briodol bod rhaid i'r gwaith sydd wedi cael ei wneud i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael heb gefnogaeth barhau, a hefyd y dull unedig o weithio ar draws gwasanaethau i roi terfyn ar ddigartrefedd fel mater iechyd cyhoeddus.
“Mae'n dangos sut gallwn ni roi'r mesurau ar waith i atal digartrefedd lle bynnag y bo modd, ac ymateb cyn gynted â phosibl pan fydd pobl yn colli eu cartrefi.”
Mae’r cynllun ochr yn ochr â chynllun Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel, o ansawdd da a fforddiadwy i'w rhentu yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Mewn datganiad dywedodd Julie James mai ei blaenoriaeth yw sicrhau bod digartrefedd yn “brin, yn fyr a ddim yn cael ei ailadrodd.”
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd:
“Mae dod â digartrefedd yng Nghymru i ben wedi bod yn ymrwymiad gan y Ceidwadwyr Cymreig ers amser maith, ac mae’n wych gweld gweinidogion Llafur o’r diwedd yn cael y bêl i rowlio er mwyn ei ddileu.
“Ond, fel sy’n digwydd yn aml gyda’r weinyddiaeth Lafur hon, mae’r cwestiwn am sut y bydd modd cyflawni’r cynllun. Mae gweinidogion yn aml yn llawn rhethreg ond mae eu record ar gyflawni dros y ddau ddegawd diwethaf wedi bod yn hynod wael a dweud y lleiaf.
“Rydyn ni wedi ei weld pan wnaethon nhw ddatgan argyfwng hinsawdd ac maen nhw'n parhau i fethu targedau tai gyda dim digon yn cael eu hadeiladu.
“Mae’n hanfodol eu bod yn llwyddo y tro hwn ar bwnc mor bwysig ac nid dim ond bod yn achos arall o Lafur yn gorymateb ac yn tan-gyflawni.”