Ghislaine Maxwell wedi 'targedu merched ifanc i gael eu camdrin'

Mae llys wedi clywed sut wnaeth Ghislaine Maxwell "dargedu" merched ifanc ar gyfer cael eu camdrin yn rhywiol wrth i'r achos yn ei herbyn ddechrau dydd Llun.
Yn ôl Sky News, dywedodd yr erlyniad yn y datganiad agoriadol mewn llys yn Efrog Newydd, fod cyn-bartner Jeffrey Epstein wedi twyllo merched ifanc cyn eu "gweini ar gyfer camdriniaeth ryw".
Ychwanegodd y gwnaeth y fenyw 59 oed gydweithio gydag Epstein dros gyfnod o ddeng mlynedd i gamdrin plant.
Mae Maxwell wedi'i chyhuddo o droseddau masnachu rhyw ac ymddygiad anaddas tuag at blant dan oed.
Gall Maxwell wynebu dedfryd o 80 mlynedd yn y carchar os caiff ei dyfarnu'n euog.
Darllenwch y stori llawn yma.