Dathlu yn Barbados dros nos wrth i'r ynys droi'n weriniaeth

Roedd dathliadau yn Barbados dros nos wrth i'r wlad ddisodli'r Frenhines, Elizabeth II fel pennaeth y wladwriaeth.
Am hanner nos ddydd Mawrth cafodd Dame Sandra Mason ei hurddo fel Arlywydd gan droi'r ynys yn y Caribî yn weriniaeth am y tro cyntaf.
Cafodd y penderfyniad i ddisodli'r Frenhines ei gyhoeddi'n 2020 ar ôl blynyddoedd o gwestiynu rôl y teulu brenhinol a hanes gwladychol yr ynys.
Yn ôl The Guardian, roedd y Tywysog Siarl a chanwr Rihanna - sydd yn wreiddiol o Barbados - yn bresennol yn ystod y seremoni ym mhrifddinas yr ynys, Bridgetown.
Darllenwch y stori llawn yma.
Llun: Getty Images / Wochit