Cipolwg ar y prif benawdau
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma rai o brif benawdau'r bore ar ddydd Gwener, 26 Tachwedd.
‘Pam dyw hwn ddim yn anabledd lle allwch gael bathodyn glas?’
Mae elusen wedi dweud y dylai pobl sy’n byw ag anableddau cudd gael yr hawl i fathodyn glas sy'n dangos eu bod yn anabl. Yn ôl merch 26 oed o Geredigion sy'n byw gyda chyflwr Colitis, mae "bob dydd yn her" wrth iddi wynebu cyfnodau o "boen eithriadol" oherwydd y cyflwr.
Cyhuddo dyn 25 oed o lofruddio menyw yn Rhondda Cynon Taf
Mae dyn wedi ei gyhuddo o lofruddio menyw 65 mlwydd oed yn Llanilltud Faerdref, Rhondda Cynon Taf. Bydd Luke Deely, 25 oed, o Bontypridd, yn ymddangos gerbron Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Gwener.
Cyfyngiadau teithio newydd yn sgil pryder am amrywiolyn Covid-19 yn Ne Affrica
Mae llywodraethau Cymru a Prydain wedi cyhoeddi cyfyngiadau teithio o'r newydd ar gyfer chwe gwlad ar gyfandir Affrica yn sgil pryderon am amrywiolyn newydd o Covid-19. Rydym hefyd yn adrodd fod bod y Scarlets a Rygbi Caerdydd yn rasio i ddychwelyd eu timoedd adref o Dde Affrica, sydd yno ar gyfer y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.
Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar draws Cymru ddydd Gwener
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar draws Cymru drwy gydol dydd Gwener. Fe fydd y rhybudd yn dod i rym am 09:00 ddydd Gwener ac yn parhau hyd at 23:59 yr un diwrnod.
Dilynwch yr holl benawdau diweddaraf ar Newyddion S4C drwy gydol y dydd.