Newyddion S4C

Cyfyngiadau teithio newydd yn sgil pryder am amrywiolyn Covid-19 yn Ne Affrica

26/11/2021
maes awyr affrica

Mae llywodraethau Cymru a Prydain wedi cyhoeddi cyfyngiadau teithio o'r newydd ar gyfer chwe gwlad ar gyfandir Affrica yn sgil pryderon am amrywiolyn newydd o Covid-19.

Er nad oes unrhyw achosion wedi eu hadnabod yn y DU hyd yma, mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig yn ymchwilio i'r amrywiolyn newydd. 

Mae un arbenigwr o'r Asiantaeth wedi dweud: "Dyma'r amrywiolyn gwaethaf i ni weld hyd yma". 

Fe fydd Botswana, De Affrica, Eswatini, Lesotho, Namibia a Zimbabwe yn cael eu hychwanegu i'r rhestr goch ar gyfer teithio rhyngwladol o 12:00 brynhawn dydd Gwener.

Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Lloegr Sajid Javid nos Iau fod angen "mwy o ddata" ond bod Llywodraeth y DU yn "cymryd camau gofalus nawr".

Fe fydd hediadau yn cael eu hatal dros dro o ddydd Gwener tra fod system gwarantin wedi ei sefydlu.

O 04:00 fore Sul bydd yn rhaid i deithwyr sy'n dychwelyd i'r DU dalu am le mewn gwesty cwarantin sydd wedi ei gymeradwyo gan y llywodraeth a threulio 10 diwrnod yno.

Mae'r llywodraeth hefyd yn gofyn i bobl sydd wedi dychwelyd o'r gwledydd penodol yn ystod y 10 diwrnod diwethaf i hunan-ynysu adref a chymryd prawf PCR ar yr ail a'r wythfed diwrnod ar ôl dychwelyd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.