Newyddion S4C

Llifogydd Texas: O leiaf 160 o bobl yn dal ar goll

Difrod yn dlyn llifogydd Texas

Mae o leiaf 160 o bobl yn dal ar goll yn Texas, yr Unol Daleithiau bedwar diwrnod ar ôl i lifogydd daro rhan o'r dalaith wythnos diwethaf.

Ymhlith y rhai sydd ar goll mae pump o blant ac un cwnselydd oedd mewn gwersyll haf Cristnogol.

Yn ystod cynhadledd newyddion dywedodd llywodraethwr Texas, Greg Abbott na fydd criwiau argyfwng yn "stopio tan fod bob un person sydd ar goll wedi eu darganfod".

Dywedodd ei bod hi'n debygol y bydd y rhestr o bobl sydd ar goll yn tyfu yn y dyddiau nesaf.

Mae o leiaf 109 o bobl wedi marw yn y drychineb a ddigwyddodd dros y penwythnos.

Bu farw'r rhan fwyaf o bobl yn Kerr County, lle'r oedd yr afon Guadalupe wedi gorlenwi yn dilyn cenllif o law.

Mae'r ymdrechion chwilio yn cynnwys defnyddio hofrenyddion Chinook sydd yn gallu halio pobl i fyny.

Mae mwy na 250 o weithwyr o wahanol asiantaethau yn helpu gyda'r chwilio ac achub yn ardal Kerrville yn unig. 

Llun: Reuters
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.