Newyddion S4C

Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar draws Cymru ddydd Gwener

26/11/2021
gwynt

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar draws Cymru drwy gydol dydd Gwener. 

Fe fydd y rhybudd yn dod i rym am 09:00 ddydd Gwener ac yn parhau hyd at 23:59 yr un diwrnod. 

Mae disgwyl i Storm Arwen achosi gwyntoedd cryfion a allai effeithio trafnidiaeth gyhoeddus ac mae siawns y bydd rhai ffyrdd yn cael eu cau.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio bod colli pŵer am gyfnodau byr yn bosib.

Yn ôl y rhagolygon mae'n bosib y bydd hyrddiau yn cyrraedd 55 i 65 milltir yr awr yn yr ardaloedd arfordirol.

Mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion hefyd mewn grym ar gyfer dydd Sadwrn.

Y siroedd sy’n wynebu’r rhybudd yw Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Powys, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Ynys Môn a Wrecsam.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.