Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar draws Cymru ddydd Sadwrn
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar draws Cymru yn ystod y penwythnos.
Fe fydd y rhybudd yn dod i rym am 00:00 ddydd Sadwrn ac yn parhau hyd at 18:00 yr un diwrnod.
Mae disgwyl i holl siroedd Cymru gael eu heffeithio gyda'r Swyddfa Dywydd yn darogan y bydd gwyntoedd yn cyrraedd cyflymder o rhwng 50 a 60 milltir yr awr.
Gallai rhai ardaloedd arfordirol gael eu heffeithio'n waeth wrth iddynt brofi gwyntoedd cryfach o rhwng 70 ac 80 milltir yr awr.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai trafnidiaeth gyhoeddus weld oedi oherwydd yr amodau gwael ac mae yna siawns isel y bydd rhai heolydd yn cael eu cau.
Mae yna hefyd rybudd y gallai cyflenwadau trydan gael eu heffeithio.