Newyddion S4C

Gohirio'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig wrth i'r Scarlets a Rygbi Caerdydd geisio dychwelyd o Dde Affrica

26/11/2021
rygbi

Mae'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig wedi gohirio dwy rownd o chwarae yn Ne Affrica ar ôl i'r wlad gael ei hychwanegu i'r rhestr teithio goch. 

Mae'r Scartlets a Rygbi Caerdydd yn ceisio edrych am ffyrdd o ddychwelyd eu staff a chwaraewyr adref o'r wlad cyn gynted â phosib. 

Cafodd De Affrica, ynghyd â phum gwlad arall, yn cael ei hychwanegu i’r rhestr goch o 12:00 ddydd Gwener yn sgil pryderon am amrywiolyn newydd ar gyfandir Affrica.

Daeth cadarnhad brynhawn dydd Gwener fod rownd chwech a saith o'r bencampwriaeth oedd i fod i ddigwydd y penwythnos nesaf, a'r canlynol, wedi eu canslo. 

Dywedodd llefarydd ar ran y trefnwyr eu bod yn gweithio gyda'r pedwar tîm, Rygbi Caerdydd, Munster Rugby, Y Scarlets a Zebre Parma i sicrhau eu bod yn dychwelyd i'r DU cyn gynted â phosib. 

Mae hediadau wedi eu gohirio o Dde Affrica am y tro a bydd unrhyw un sy’n cyrraedd y DU yn gorfod hunanynysu am 10 diwrnod.

O 04:00 ddydd Sul, bydd yn rhaid i unigolion sy’n dychwelyd dreulio cyfnod o gwarantin am 10 diwrnod mewn gwesty.

Mae Sky News yn adrodd y gallai’r newid daro’r ddau dîm gan fod paratoadau ar gyfer y Bencampwriaeth Cwpan Heineken yn fod i ddechrau ar dir cartref ar 10 Rhagfyr.

Y gred yw bod y ddau dîm yn ceisio sicrhau hediadau preifat ar gyfer dydd Gwener.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.