
Amgueddfa Lechi yn derbyn dros £12 miliwn i ddatblygu'r safle
Mae un o brif amgueddfeydd Eryri wedi derbyn dros £12 miliwn mewn arian loteri i ddatblygu'r safle.
Bydd Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yn defnyddio'r arian o Gronfa Treftadaeth y Loteri i wella hygyrchedd a datblygu canolfan addysg.
Fe wnaeth yr amgueddfa gyhoeddi ym mis Tachwedd y llynedd ei bod yn cau dros dro ar gyfer ailddatblygiad gwerth £21 miliwn.
Nod yr ailddatblygiad yw rhoi "bywyd newydd" i'r amgueddfa a'i thrawsnewid i fod yn atyniad o safon safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Fe lwyddodd ardal llechi Gwynedd i fod ar restr Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO ym mis Gorffennaf 2021.

Fel rhan o'r gwaith, bydd yr adeiladau Gradd 1 nodedig yn cael eu cadw’n saff a’u hadnewyddu.
Bydd man chwarae, siop a chaffi hefyd yn cael eu hadeiladu.
Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau ymhen dwy flynedd.
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley, cadeirydd Partneriaeth Llechi Cymru, ei fod yn croesawu'r arian.
"Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn helpu i ddatblygu'r safle hwn fel porth i'n hanes a'n diwylliant a fydd yn ymgysylltu ac yn ysbrydoli cenedlaethau heddiw ac yn y dyfodol," meddai.
Prif lun: Amgueddfa Lechi Cymru / Aled Llywelyn