Pob ffôn symudol i dderbyn rhybudd argyfwng cyhoeddus ym mis Medi
Bydd rhybudd argyfwng cyhoeddus yn cael ei anfon i bob ffôn symudol yn y DU am tua 15:00 ar 7 Medi, gan achosi larwm i ganu am 10 eiliad.
Y tro diwethaf i bobl Cymru dderbyn rhybudd o’r fath oedd adeg Storm Darragh, pan dderbyniodd tua 3 miliwn o bobl yng Nghymru a Lloegr y rhybudd cyhoeddus.
Roedd y Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd coch 'perygl i fywyd' prin ar y pryd pan ganodd y larwm ym mis Rhagfyr 2024 - gan greu cryn sioc i lawer.
Mae’r rhybudd yn achosi i ffonau symudol greu sŵn uchel fel seiren.
Cafodd system Rhybuddion Argyfwng Llywodraeth y DU ei phrofi’n gyntaf ym mis Ebrill 2023.
Y nod yw rhybuddio pobl pan fydd perygl i fywyd gerllaw.
Cafodd llawer o bobl eu syfrdanu gan sŵn uchel y larwm yn y gorffennol, ond mae llefarydd ar ran Swyddfa'r Cabinet Llywodraeth y DU wedi dweud nad dyna yw’r bwriad.
Y gobaith yw y bydd yn rhoi gwybod i bobl bod perygl uniongyrchol i’w bywydau mewn achosion pan nad yw'n canu fel achos o arbrawf yn unig, ond mewn gwir argyfwng.
Maen nhw’n dweud y gallai’r system achub bywydau yn y pen draw.
Mae tua phump o rybuddion wedi cael eu cyhoeddi ers i'r system gael ei chreu.