Newyddion S4C

Cyffur colli pwysau wedi 'trawsnewid bywyd' dyn oedd yn pwyso 28 stôn

dafydd elias evans.jpg

Mae dyn 39 oed oedd yn pwyso 28 stôn y llynedd yn dweud fod defnyddio'r cyffur colli pwysau Mounjaro wedi "trawsnewid ei fywyd". 

Mae Dafydd Elias Evans yn wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr ond bellach yn byw yn Llundain. 

Mae Mounjaro yn enw masnachol ar gyffur colli pwysau Tirzepatide, ac mae'n gwneud i berson deimlo yn fwy llawn am gyfnod hirach, ac felly yn llai llwglyd. 

Mae'n dod ar ffurf pigiad y mae modd ei chwistrellu unwaith yr wythnos.

Yn ôl Llywodraeth Cymru dylai Tirzepatide a chyffuriau tebyg ar gyfer colli pwysau gael eu rhoi trwy wasanaethau rheoli pwysau arbenigol yn y GIG yn unig.

Mae'r cyffur ar gael yng Nghymru gan y GIG ynghyd â diet calorïau isel a mwy o weithgarwch corfforol ar gyfer oedolion â BMI o leiaf 35kg/m2 ac o leiaf un cyflwr arall yn ymwneud â phwysau.

Image
Dafydd ar y diwrnod cyntaf iddo gymryd y frechlyn.
Dafydd ar y diwrnod cyntaf iddo gymryd y frechlyn.

Ag yntau yn pwyso 28 stôn erbyn mis Hydref y llynedd, fe benderfynodd Dafydd ei fod eisiau newid ei fywyd.

"Nes i ddechrau 25 Hydref 2024 – o’dd hwnna yn 15 mis tan o’n i’n troi yn 40 a y plan oedd i golli hanner o pwysau fi ar gyfer fy mhenblwydd yn 40," meddai wrth Newyddion S4C

"O’n i wedi bod yn depressed, o’n i’n troi’n 40 flwyddyn nesa ac mewn 15 mis, o’n i’n meddwl bod o’n amser da i ddechrau a mae wedi newid bywyd fi yn sylweddol ers hynny."

Mae Dr Beth Howells yn feddyg teulu preifat yng Nghastell Newydd Emlyn yn Sir Gâr, ac mae wedi gweld "cynnydd anferthol" yn y bobl sy'n ei ddefnyddio dros y flwyddyn ddiwethaf.

"Achos bo’ ni yn glinig preifat, mae modd ‘da ni i ddarparu fe i bawb sydd yn gymwys, ma’ cannoedd wedi cychwyn arno fe dros y flwyddyn ddiwethaf," meddai wrth Newyddion S4C

"Rhai yn aros arno fe dim ond am ychydig fisoedd a rhai wedi bod arno fe yn tynnu am flwyddyn felly mae’r galw yn enfawr a’r canlyniadau yn dda."

Ychwanegodd Dr Howells: "Ma’ fe yn effeithiol dros ben, dwi’n credu bod e’n bwysig dros ben. Dwi’n credu bod e’n bwysig bod pobl yn cael lot o gefnogaeth pan ma’ nhw’n cychwyn arno fe oherwydd dyw e ddim yn toddi’r ffat i ffwrdd, ma fe’n gweithio ynghyd â sicrhau bod y diet yn iach ac yn gytbwys a cheisio annog pobl i sicrhau bo' nhw yn neud ymarfer corff a bod yn fwy actif," meddai. 

"Dyw e ddim yn gweithio ar ben ei hunan, ond os y’n nhw’n cael tipyn o gyngor a chefnogaeth, mae’r canlyniadau ni wedi gweld yn ardderchog. "

Image
Dafydd
Mae Dafydd wedi colli bron i 10 stôn hyd yma.

Mae Dafydd yn pwyso yn wythnosol, ac ar hyn o bryd, mae'n parhau i wneud cynnydd da wrth golli pwysau gyda'r frechlyn.

"Fi’n pwyso pob dydd Gwener, nes i ddechrau ar 28 stôn 2 ar 25 Hydref. Ddydd Gwener diwetha o’n i’n 19 stôn 7 felly fi 'di colli 8 stôn 9 pwys hyd yn hyn," meddai.

"Y targed ydy i fod 14 stôn 1 ar penblwydd fi yn 40 ond fi ddim yn siŵr am hwnna, ond fi moyn dweud bo’ fi wedi colli hanner pwysau fi dros y 15 mis."

Er bod Dafydd yn profi sgil-effeithiau pan mae'n defnyddio'r cyffur, gan gynnwys dolur rhydd a chwydu llawer, mae'r manteision o'i ddefnyddio yn fwy na'r anfanteision yn ei farn ef.

"Fi ddim yn becso am y side effects rili achos fi ddim yn morbidly obese rhagor, fi ddim at risk rhagor, fi’n edrych llawer iawn yn well," meddai.

"Dwi’n teimlo llawer yn iachach, fi’n edrych yn well hefyd so fi’n teimlo yn fwy hyderus, ma hunan-hyder fi yn llawer yn well, fi’n llawer mwy positif a hyderus a ma hynny yn gwella sut ydw i’n gwaith hefyd.

"Fi ddim 'di cwpla eto, o’n i’n arfer mynd ar beic ond o’n i wedi mynd yn rhy fawr felly fi’n edrych ymlaen i mynd nol ar y beic hefyd – ma’n neis prynu dillad eto."

'Ddim yn poeni'

Er bod Dafydd yn cydnabod fod rhai sylwadau yn gallu bod yn feirniadol a negyddol ynghylch y defnydd o Mounjaro, nid yw hyn yn ei boeni. 

"Dwi ddim yn poeni rili be ma’ pobl eraill yn feddwl, fyswn i’n cael fy meirniadu am fod yn 28 stôn a fyswn i’n cael fy meirniadu am golli’r pwysau drwy ddefnyddio’r cyffur," meddai. 

"Ma' lot o bobl sydd gyda obesity yn stryglan, fi wedi stryglo gyda pethau mental health o’r blaen, fi ddim yn deall pam bod pobl mor negyddol am y peth ond yn bersonol, dim dyna’r ymateb dwi wedi ei gael, ma’ pobl sy’n becso amdana fi, ma' nhw’n rili positif, a pobl yn anfon negeseuon rili positif."

Ychwanegodd Dr Howells fod angen i bobl beidio â beirniadu'r rhai sy'n penderfynu defnyddio'r cyffur. 

"Dwi’n credu fod beirniadu yn drist iawn achos mae gordewdra yn broblem fawr, ma’ fe’n amlwg yn cynyddu risg unigolion o llu o broblemau meddygol ond hefyd sut maen nhw’n teimlo am eu hunain a’u hiechyd meddwl nhw," meddai. 

"Dyw colli pwysau, i’r bobl ‘na sy’n gweud ‘dim ond bwyta llai a symud mwy’ wel wrth gwrs, mae’r elfennau yna yn bwysig i fynd ynghyd â’r Mounjaro ond ma’ ‘na gymaint o demtasiwn o gwmpas ni gyd, mae 'na resymau eraill pam bod pobl yn troi i orfwyta. 

"Bydden i jyst yn gofyn i bobl beidio bod yn feirniadol achos ma’ fe yn helpu pobl o ran eu hiechyd corfforol a’u iechyd meddyliol."

Image
Dafydd
Dafydd Elias Evans

Ond mae Dr Howells yn pwysleisio ei bod yn hollbwysig fod pobl yn cael mynediad at y cyffur yn y ffordd gywir. 

"Ma’ fe’n gonsyrn mawr i fi achos ma' effaith meddygol o gael rhywbeth anghywir yn gallu bod yn anferthol a dwi’n credu bod yr amser wedi dod i geisio sicrhau bod pobl yn ffaelu cael e dros y wê achos dyw e ddim yn bosib rhan fwya o’r amser i sicrhau bod y wybodaeth ma unigolion yn ei rhoi yn gywir o ran eu cefndir meddygol a’u mesuriadau a’u pwysau," meddai.  

"Felly does dim modd yn fy marn i o fod yn sicr fod y person sy’n cael e dros y we yn addas ac yn gymwys.

"Yn sicr ni wedi cael profiad o bobl sydd wedi dod atom ni, wedi prynu fe dros y we a wedi cael sgil-effeithiau ofnadwy. Ma’ hynny yn codi’r cwestiwn beth oedd ynddo fe, a oedd nhw’n cael y meddyginiaeth cywir?"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae meddyginiaethau colli pwysau ar gael trwy wasanaethau rheoli pwysau arbenigol yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Rydym yn ystyried ar hyn o bryd sut y byddant ar gael yn y dyfodol, gan gynnwys trwy ofal sylfaenol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.