Newyddion S4C

'Teimlad swreal': Y newyddiadurwraig Maxine Hughes yn trafod ei thriniaeth canser y fron

Maxine Hughes

Mae'r newyddiadurwraig Maxine Hughes wedi bod yn derbyn triniaeth am ganser y fron.

Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Maxine, sydd yn wreiddiol o Sir Conwy ond bellach yn byw yn Washington D.C., ei bod hi wedi teimlo lwmp ar ei brest ychydig ar ôl diwrnod y Nadolig.

Daeth hynny ddyddiau yn unig ar ôl iddi golli ei thad, meddai.

"O’n i yn Awstralia am Nadolig ag oedd o’n gwylie pwysig i ni fel teulu achos mae fy ngwraig yn dod o Awstralia a doedden ni ddim wedi bod mewn blynyddoedd gyda’r plant oherwydd Covid.

"O’n i 'di methu y rhan gyntaf o’r gwyliau oherwydd roedd dad fi’n sâl. 

"Ond wedyn nesi adael i fynd i Awstralia a ffeindio allan tua wythnos wedyn oedd dad wedi marw. Diwrnod ar ôl hynna o’n i’n eistedd yn meddwl am dad a nesi teimlo’r lwmp, jyst ar ôl diwrnod Nadolig."

Ar ôl dychwelyd i America dechreuodd Maxine, sydd yn 45 oed, ohebu ar y tanau yn Los Angeles.

Ddiwrnod wedi iddi ddychwelyd fe aeth hi i'r ysbyty ar gyfer biopsi er mwyn darganfod os oedd ganddi ganser neu beidio.

Image
Maxine Hughes yn gohebu yn Los Angeles
Maxine Hughes yn gohebu yn Los Angeles

Ar ôl derbyn y canlyniadau, roedd y newyddiadurwraig yn dweud iddi deimlo'n ofnus.

"Hyd yn oed cyn neud y biopsi oedden nhw’n gallu dweud yn syth roedd o’n canser," meddai.

"O’n i’n gwybod tua hanner trwy mis Ionawr a wedyn gorfod neud pathology i ffeindio mas pa fath o ganser oedd o, ac yn anffodus wnaethon nhw ffeindio mas pythefnos wedyn mai y fath rili aggressive oedd o, y triple negative ma."

Mae canser o'r math yma'n un llawer mwy prin na chanser y fron arferol.

Tua 10-20% o bob diagnosis canser y fron yw'r math yma, ac mae'n anoddach i'w drin.

"O’dd o’n deimlad swreal rili," meddai Maxine.

"Dwi wedi gohebu ar gymaint o straeon am canser, mae’n weird pan ti’n newyddiadurwr, fel arfer ti tu allan yn edrych mewn ond nawr ti’n teimlo fel bod ti yng nghanol y stori, ac yn deall sut ma pobl yn teimlo.

"I fod yn onest oedd y newyddion am y triple negative yn waeth na’r cancr, roedd o’n rili ofni fi achos bod o mor aggressive."

'Cadw'n bositif'

Fe benderfynodd Maxine i gadw ei diagnosis iddi hi ei hun, gan ddweud wrth ei theulu a'i ffrindiau agos yn unig.

Dros y chwe mis diwethaf mae hi wedi bod yn derbyn triniaeth chemotherapi ac imiwnotherapi.

Yn ystod ail wythnos mis Awst fe fydd hi'n derbyn triniaeth mastectomi ddwbl, cyn parhau gyda'r imiwnotherapi am chwe mis arall.

Dywedodd bod ceisio cadw'n bositif a pharhau gyda'i swydd dros y misoedd diwethaf wedi bod o gymorth mawr iddi. 

"O’n i ddim isho dweud unrhyw beth achos dwi'n caru fy ngwaith a o'n i ddim ishe pobl edrych arna fi fel rhywun oedd ddim yn gallu gweithio achos bod nhw’n sâl.

"Felly ro’n i isho cario mlaen yn dawel ac mae cario mlaen gweithio yn neud i betha teimlo’n normal. Ond hefyd cadw’n actif, mynd i’r gym a neud loads o yoga.

"Fi’n rili lwcus, dwi wedi cael cefnogaeth gan teulu a ffrindiau agos a dwi’n gwybod bod lot o bobl ar draws y byd ddim gyda’r gefnogaeth yna. 

"Ma’r plant yn cadw fi’n brysur a dwi jyst yn trio cario 'mlaen a mynd a nhw i weithgareddau nhw a ma' hwnna wedi helpu fi gymaint."

Image
Maxine Hughes

Eisteddfod Wrecsam

Roedd llawdriniaeth mastectomi ddwbl Maxine i fod i ddigwydd ar ddechrau mis Awst.

Ond oherwydd bod y newyddiadurwraig yn cael ei hurddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Wrecsam roedd rhaid symud y llawdriniaeth ymlaen i'r wythnos ganlynol.

Mae'r newyddion y bydd hi'n cael ei hurddo wedi bod yn rhywbeth i Maxine edrych ymlaen ato tra ei bod hi'n derbyn triniaeth am ganser.

"Dwi’n teimlo’n positif am y double mastectomy, mae’n cam rili pwysig yn y broses, o'n i fod i gael o wythnos cynta' mis Awst ond dwi wedi cael y newyddion bod fi’n cael fy urddo yn y 'Steddfod.

"Ma’r newyddion o gael fy urddo wedi bod mor bositif i mi yn y cyfnod yma, yn enwedig achos bod y 'Steddfod yn Wrecsam. A dwi wedi colli dad ac mae teulu dad yn dod o Wrecsam.

"A 'sa dad wedi bod yna i weld fi yn y Steddfod, 'sa fo mor falch a hapus. Felly ma' honna ‘di bod yn rhywbeth rili positif i mi mewn cyfnod rili anodd.

"Ma' loads o deulu a ffrindiau ar draws y byd yn teithio i fod yna ar gyfer y seremoni felly ma' mynd i fod yn wythnos rili pwysig a positif i mi.

"Casglu pawb at ei gilydd, cael wythnos amazing yng Nghymru a wedyn mynd nôl i America a gobeithio cael gwared ar y canser."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.