
Southport: Cynnal ymchwiliad cyhoeddus i farwolaethau tair merch mewn ymosodiad
Bydd ymchwiliad cyhoeddus i lofruddiaethau Southport, lle cafodd tair o ferched ifanc eu lladd gan Axel Rudakubana, yn cychwyn ddydd Mawrth.
Carcharwyd Rudakubana am o leiaf 52 mlynedd ym mis Ionawr am lofruddiaethau tair merch a cheisio llofruddio wyth o blant eraill a dau oedolyn.
Llofruddiodd y ferch naw oed Alice da Silva Aguiar, Bebe King, chwech oed, ac Elsie Dot Stancombe, saith oed, yn yr ymosodiad mewn gweithdy ar thema Taylor Swift ar 29 Gorffennaf y llynedd.
Fe fydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yn Neuadd y Dref yn Lerpwl ac yn cael ei gadeirio gan Syr Adrian Fulford.
Ddydd Llun bydd datganiad agoriadol yn cael ei gyhoeddi, cyn i deuluoedd y plant fu farw a'r plant a'u teuluoedd gafodd eu heffeithio gan yr ymosodiad roi tystiolaeth.
Bydd yr ymchwiliad yn cael ei rhannu'n ddau ran.
Fe fydd y rhan gyntaf yn canolbwyntio ar ymchwiliad i amgylchiadau'r ymosodiad a'r hyn arweiniodd at y trywanu.
Bydd hynny'n cynnwys hanes Rudakubana a'i gefndir gyda chyrff cyhoeddus gan gynnwys cyrff cyfiawnder troseddol, addysg, gofal cymdeithasol a gofal iechyd.
Hefyd bydd penderfyniadau a gwybodaeth a gafodd ei rannu gan wasanaethau lleol yn destun yr ymchwiliad.

Fe fydd ail ran yr ymchwiliad yn ymchwilio i blant a phobl ifanc yn cael eu denu i drais eithafol.
Yn dilyn yr ymosodiad gan Rudakubana y llynedd roedd terfysgoedd hyd a lled Lloegr.
Roedd plant a gymerodd ran yn y terfysgoedd yn cael eu gyrru’n bennaf gan chwilfrydedd a “chyffro'r foment” yn hytrach nag ideoleg dde eithafol meddai adroddiad ar y pryd.
Ymhlith y rhesymau eraill pam roedd rhai o'r plant a phobl ifanc wedi cymryd rhan yn y terfysgoedd oedd diffyg ymddiriedaeth yn yr heddlu a diffyg cyfleoedd.