Newyddion S4C

Y Llewod i chwarae heb Gymro am y tro cyntaf mewn dros ganrif

Jac Morgan 2024

Bydd tîm y Llewod yn chwarae heb Gymro am y tro cyntaf mewn dros ganrif yr wythnos hon.

Ni fydd chwaraewyr o Gymru yn chwarae yn nhîm y Llewod ddydd Mercher wrth iddyn nhw wynebu'r ACT Brumbies yn Canberra.

Dyma'r tro cyntaf ers 1899 nad oes gan garfan y Llewod gynrychiolaeth o Gymru a hynny gan na gafodd y chwaraewyr eu dewis.

Yn hytrach mae'r prif hyfforddwr, Andy Farrell, wedi dewis tîm sy'n cynnwys chwaraewyr o Loegr, Iwerddon a'r Alban yn unig.

Daw'r newyddion yn sgil cyfnod anodd i Gymru wedi i dîm y dynion golli gêm rygbi rhyngwladol am yr 18fed tro yn olynol ddydd Sadwrn.

O ganlyniad, dim ond dau chwaraewr o Gymru - Jac Morgan a Tomos Williams - wnaeth lwyddo i gyrraedd taith y Llewod i Awstralia.

Ond fe wnaeth Williams gyhoeddi'r wythnos ddiwethaf na fyddai yn chwarae yng ngweddill y daith oherwydd anaf i linyn y gar.

Fe gafodd anaf wrth sgorio ei ail gais o'r gêm yn ystod buddugoliaeth y tîm yn erbyn The Western Force yn Perth, Awstralia.

Mae hynny'n golygu mai Morgan yw'r unig Gymro ar ôl yn y garfan ac ni chafodd ei ddewis i herio'r Brumbies.

Dywedodd Farrell yn gynharach yn y flwyddyn na fyddai yn dewis ei chwaraewyr am resymau gwleidyddol.

"Rwy’n gwybod bod hynny’n ddelfrydol i bawb, ond mae’n rhaid gwneud hyn ar sail teilyngdod i bwy sy’n ffitio," meddai. 

"Dydw i erioed wedi bod fel ‘na. Dychmygwch beidio â mynd ar daith y Llewod oherwydd bod rhywun yn meddwl bod rhywun arall sydd ddim cystal yn haeddu lle oherwydd y deinameg [o ddewis amrywiaeth o genhedloedd]. Yn sicr nid yw hynny’n deg."

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.